Dylai fod “un set o reolau i bawb” yn y Deyrnas Unedig dros gyfnod y Nadolig.

Dyna mae Prif Weinidog Cymru wedi ei ddweud  wrth ateb cwestiynau’r cyhoedd ar ffrwd byw WalesOnline.

A’r Nadolig yn prysur nesáu mae cwestiynau mawr wedi codi ynghylch dathliadau eleni, ac mae gofidion y bydd cyfyngiadau covid yn rhwystro teuluoedd rhag dod ynghyd.

Wrth edrych at fis Rhagfyr mae Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn “frwd o blaid” delio â’r mater “ar lefel y Deyrnas Unedig”.

“Mae gan gymaint ohonom deulu ar bob ochr i’r ffin,” meddai, “a bydden nhw fel arfer yn cwrdd â’i gilydd dros y Nadolig.

“A dw i’n credu y byddai’n [werth] cael set gyffredin o reolau – beth bynnag yw’r rheolau yna – sydd mewn grym ledled y Deyrnas Unedig, ac yn sicr rhwng Lloegr a Chymru.

“Dyna sut dw i’n mynd i ystyried beth allwn wneud â’r Nadolig. Un set o reolau i bawb, lle bynnag ydych chi’n byw.

“Dw i’n credu byddai hynny’n deg i bobol, a dyna fyddai hawsaf i gyfathrebu â phobol hefyd.”

Yr un rheolau

Yn ystod y ffrwd byw holwyd pe bai’n dal yn gefnogol i’r syniad yma pe bai cyfraddau covid yn dipyn uwch yn Lloegr nag yng Nghymru.

“Buasen i’n dal eisiau set gyffredin o reolau,” meddai. “Dyw set gyffredin o reolau ddim yn meddwl bod unrhyw un yn medru mynd lle bynnag y mynnant.

“Ond bydd yr un set o reolau yn Lloegr ag sydd yng Nghymru.”

Dywedodd mai’r “uchelgais” â’r ‘clo dros dro’ yw i rwystro sefyllfa lle byddai’n rhaid cyflwyno rheolau llym yn ystod yr wythnos hyd at Nadolig.

Mae’n awyddus am “gyfarfod cynnar” â gweinidogion y Deyrnas Unedig, a’r llywodraethau datganoledig i drafod ei gynlluniau.