Bydd pedwar o bobol o wahanol aelwydydd yn gallu cyfarfod mewn tafarndai, caffis a bwytai ar ôl i’r clo dros dro ddod i ben yng Nghymru ddydd Llun (Tachwedd 9).
Fodd bynnag, dim ond pobol o’r un aelwyd estynedig fydd yn cael cyfarfod mewn cartrefi.
Dywed y prif weinidog Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru wedi “gwrando ar bobol ifanc a phobol sengl ynglŷn â phwysigrwydd cwrdd â ffrindiau a theulu”.
Fydd dim terfyn ar nifer y bobol sy’n cael cyfarfod os ydyn nhw’n byw o fewn yr un aelwyd a fydd y rheol ddim yn cynnwys plant o dan 11 oed.
Fydd dim modd gwerthu alcohol ar ôl 10 o’r gloch y nos.
“Mae hyn yn amodol ar reolau llym sy’n cael eu trafod â’r sector lletygarwch, gan gynnwys archebu ymlaen llaw a slotiau amser cyfyngedig,” meddai Mark Drakeford.
“Fel ym mhob agwedd ar ein bywydau, bydd cynnal hylendid da a chadw ein pellter yn hanfodol yn y lleoliadau hyn.”
Bydd siopau campfeydd a sefydliadau eraill a wnaeth gau yn ystod y cyfnod clo dros dro hefyd yn ailagor.
Dwy aelwyd yn cael ymuno i greu swigen
Ar ôl y clo dros dro, bydd dwy aelwyd yn cael ymuno i greu swigen.
“Gartref, gan gynnwys yn yr ardd, dim ond gyda phobol o’u cartref estynedig y bydd pobol yn gallu cwrdd ag eraill, a bydd cartref estynedig yn cael ei gyfyngu i ddim ond dwy aelwyd,” meddai Mark Drakeford.
“Mae partïon tai, digwyddiadau mwy a dod ynghyd dan do yn parhau i fod yn anghyfreithlon, ac rydym am wneud y rheolau hyn yn gliriach.”
Er mwyn cadw’r cyfyngiadau yn syml, eglurodd na fyddai cyfyngiadau ar deithio yn cael eu rhoi yn eu lle yng Nghymru, ond y dylai pobol osgoi teithio os nad yw’n hanfodol.
Ychwanegodd fod teithio i Loegr ac oddi yno wedi ei wahardd oni bai bod rheswm hanfodol fel gwaith neu addysg.
Bydd clo cenedlaethol yn dod i rym yn Lloegr ddydd Iau (Tachwedd 5).
‘Gadael busnesau i lawr’
Mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o “adael busnesau i lawr”.
“Mae angen eglurder ar fusnesau ac mae angen cymorth arnynt,” meddai.
“Mae’n gwbl hanfodol fod y Llywodraeth Lafur yma yn darparu hyn.
“Rhaid cofio mewn rhai ardaloedd sydd wedi bod dan glo lleol cyn hyn nad clo o 17 diwrnod sydd yn dod i ben ond clo o bum wythnos.”