Mae Jeremy Vaughan wedi’i benodi’n Brif Gwnstabl Heddlu’r De.
Daw hyn wedi i’r cyn-Brif Gwnstabl Matt Jukes gael ei benodi yn Gomisiynydd Cynorthwyol Heddlu Llundain.
Dechreuodd gyrfa blismona Jeremy Vaughan gyda Heddlu’r Gogledd yn 1996.
Treuliodd y pedair blynedd diwethaf yn gweithio fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol a Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu’r De.
“Rwy’n falch iawn fy mod yn olynu Matt Jukes fel Prif Gwnstabl Heddlu’r De ac yn cael y cyfle i arwain tîm cystal o swyddogion a staff sy’n gweithio mor galed i gadw cymunedau De Cymru yn ddiogel,” meddai’r Prif Gwnstabl newydd.
“Rwy’n etifeddu heddlu sydd mewn cyflwr da ac sy’n addas ar gyfer mynd i’r afael â heriau heddiw.
“Ond dydy hyn ddim yn golygu y byddwn yn aros yn ein hunfan, ac rwy’n benderfynol o sicrhau ein bod yn symud ymlaen er mwyn parhau â’r gwaith o ddatblygu camau i atal troseddau a diogelu cymunedau.
“Rydym yn plismona mewn cyfnod heriol – mae Covid-19 wedi effeithio ar bob un o’n cymunedau a gwn y bu’n gyfnod anodd iawn i bobol de Cymru.
“Er gwaethaf yr anawsterau yn sgil COVID-19, rhaid i ni barhau i fynd i’r afael â’r heriau yn ein cymunedau.”
‘Hyderus bod gennym y person cywir i arwain Heddlu De Cymru’
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael fod ganddo bob ffydd yn Jeremy Vaughan.
“Rwy’n bendant ac yn hyderus fod gennym y person cywir i arwain Heddlu De Cymru, ac felly rwy’n falch iawn bod Panel yr Heddlu a Throseddu wedi cymeradwyo fy argymhelliad i benodi Jeremy Vaughan yn Brif Gwnstabl De Cymru,” meddai.
“Yn gynharach heddiw, ymddangosais gerbron y panel gyda Jeremy Vaughan a’m prif weithredwr, Lee Jones, i egluro’r broses rydym wedi’i dilyn, a gwnaethom ddarparu adroddiad ysgrifenedig gan yr Asesydd Annibynnol a oedd yn gyfrifol am arsylwi a chraffu ar uniondeb y broses benodi a sicrhau ei bod yn deg a thryloyw.
“Rwy’n ddiolchgar i’r holl bobol sydd wedi rhoi o’u hamser i fod yn rhan o’r broses.
“Mae’n dangos pwysigrwydd y rôl gan eu bod yn cynrychioli amrywiaeth eang o ddisgyblaethau ac asiantaethau.’’
Bydd Jeremy Vaughan yn dechrau yn ei swydd newydd ar Dachwdd 7.