Mae astudiaeth newydd sy’n cael ei lansio gan Brifysgol Abertawe yn mesur i ba raddau mae cyfyngiadau’r coronafeirws yn gwneud i bobol deimlo’n llai diogel ac yn cynyddu eu pryderon am y feirws.

Mae academyddion o Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe yn credu y gall dilyn rheolau megis systemau unffordd, cadw pellter cymdeithasol, defnyddio hylif diheintio dwylo a gwisgo gorchuddion wneud i bobl deimlo’n fwy pryderus.

Bydd yr ymchwil yn ceisio darganfod a yw’r mesurau’n achosi i bobol osgoi sefyllfaoedd a mannau roedden nhw’n arfer teimlo’n ddiogel ynddyn nhw o’r blaen, megis archfarchnadoedd, sinemâu a chaffis.

Ar ôl cael cyllid gwerth £65,000 gan Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru, bydd ymchwilwyr yn mynd ati i ddatblygu ffordd well o ddeall penderfyniadau pobol sy’n osgoi bygythiadau anghyfarwydd.

“Bydd yr astudiaeth fawr newydd hon yn archwilio’r ffactorau seicolegol a all arwain at ymddygiad osgoi, megis unigrwydd, straen ac iselder,” meddai Dr Martyn Quigley, sy’n ddarlithydd seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe.

“Wrth wneud hynny, rydym yn gobeithio adnabod y bobol hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf o droi at yr ymddygiad osgoi hwn, a all effeithio’n sylweddol ar ansawdd bywyd.”

“Hanfodol ein bod yn deall ffactorau seicolegol”

Dywedodd yr Athro Simon Dymond, sy’n athro seicoleg a dadansoddi ymddygiad ei bod yn “hanfodol ein bod yn deall y ffactorau seicolegol sy’n gysylltiedig â risg ymddygiad osgoi problemus yn ystod y cyfnod digynsail hwn”.

“Bydd yr astudiaeth hon yn archwilio a yw’r negeseuon diogelwch i atgoffa pobol am Covid-19 yn cynyddu’r bygythiad canfyddedig o ddal y feirws,” meddai.

“Bydd yn taflu goleuni ar y ffordd y mae pobol yng Nghymru’n ymdrin â bygythiadau sefyllfaoedd a fu gynt yn ddiogel ac, wrth wneud hynny, bydd yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth well ynghylch sut i glustnodi help i’r bobol y mae ei angen arnyn nhw fwyaf.”