Mae mudiadau cymunedol yng Nghymru yn dweud na fydd modd iddyn nhw ailgychwyn cynnal eu cyfarfodydd arferol yn sgil y rheol newydd yngylch faint o bobol sy’n gallu ymgynnull ar y tro.
Er hynny, mae’n debyg mai prin fydd yr effaith ar fudiadau cymunedol Cymru, o ystyried nad yw eu lleoliadau cyfarfod arferol yn ddigon mawr i gadw pellter cymdeithasol a chan fod canghennau, gan amlaf, â mwy na phymtheg aelod.
Clwb Ffermwyr Ifanc, Caernarfon
Mae golwg360 wedi bod yn cael ymateb Clwb Ffermwyr Ifanc, Caernarfon ynghylch sut fydd y datblygiad yn eu heffeithio nhw.
“’Da ni heb gael cadarnhad gan fudiad Eryri eto,” meddai Non Griffith, Llywydd y Clwb.
“Ond mi ydyn ni’n glwb o tua 45 o aelodau yng Nghaernarfon, felly mi fysa rhaid torri lawr pwy sy’n cael dod.”
Eglura eu bod nhw wedi bod yn cynnal digwyddiadau yn rhithiol ond pwysleisia hefyd pa mor bwysig yw sicrhau bod pawb yn cael cyfarfod gyda’i gilydd, wyneb yn wyneb.
“Yn amlwg, mae pawb yn ein clwb ni’n dod o gefndir amaethyddol ac mae pawb yn gwybod bod problemau iechyd meddwl yn uchel yn y sector yma, felly ‘da ni yn poeni,” meddai.
“Mae’r rhan fwyaf o’r aelodau’n gweithio ar ben eu hunain drwy’r dydd ac mi oedd dod i’r clwb gyda’r nos yn rhywle iddyn nhw fynd.
“Mi ydyn ni’n glwb ofnadwy o agos a dwi’n gwybod bysa pawb isio dod yn ôl yr un pryd.
“Dan ni wedi cynnal rali yn rhithiol, oedd yn llwyddiannus iawn a ‘da ni newydd gynnal ein ffair aeaf rŵan dros y we – mae’n job gwneud o. Dydi o ddim yn hawdd barnu buwch dros laptop!”
Merched y Wawr
Yn yr un modd, dywed Meirwen Lloyd, Llywydd Merched y Wawr, fod y cyfyngiad pymtheg person yn atal y rhan fwyaf o ganghennau rhag cynnal eu cyfarfodydd dan do eto.
“Mi fydd hi’n bosib i 15 gyfarfod ac mae ganddon ni ganghennau sydd â llai na phymtheg ond yr un modd, mae ganddon ni ganghennau sydd hefo dros 75 aelod, rhai yn drigain a’r mwyafrif yn ddeugain,” meddai.
“’Da ni ddim isio amddifadu unrhyw aelod rhag cyfarfod yn y cyfnod yma.”
Ychwanegodd y byddai rhai ffactorau ymarferol hefyd yn gwneud hi’n anodd.
“Yn ein lleoliadau pentrefol ac yn ein tref i ddweud y gwir – does dim lleoliadau digon mawr i gadw at y rheol dwy fedr ac i gadw at y canllawiau,” meddai.
“Mae o’n ddyletswydd ar bob un i benderfynu dros eu hunain.
“Fel mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi ei ddweud ddoe, mae cyfrifoldeb gan bob unigolyn yn ymwneud a’r canllawiau, o ran be ‘da ni’n cael gwneud a be fedrwn ni wneud – mae’r ddau beth yn hollol wahanol.”
Côr Merched Soar, Tregaron
Un arall sydd ag amheuon am y sefyllfa yw Manon Mai, arweinydd Côr Merched Soar.
“Mae sefyllfa bob côr neu sefydliad yn wahanol a dwi’n gwybod bod ‘na lot o aelodau sydd yn ofnadwy o awyddus i gwrdd,” meddai.
“Mi ydw i’n awyddus i gwrdd, mae gen i hiraeth a dwi isio canu a chael bach o normalrwydd ond ar yr un pryd dwi yn ofnadwy o nerfus.
“Dan ni wedi bod mor ofalus am mor hir dwi’n meddwl fod pobol am ffeindio hi’n anodd iawn i adael fynd o hynny ac o fod yn saff.
“Mae pymtheg yn rif reit dda ond os oes gen ti gôr o ddeg ar hugain – sut wyt ti’n dewis pwy sy’n cael dŵad?
“Efallai bod o’n haws i ni gan bo ni’n llai ond i grwpiau mawr, dydi o ddim yn ateb y broblem,” meddai.