Mae dau o brif wrthwynebwyr arlywydd y Côte d’Ivoire yn gwrthod derbyn ei fod e wedi ennill trydydd tymor wrth y llyw.

Fe ddaw ar ôl i Alassane Ouattara ddod i’r brig yn etholiad arlywyddol y wlad wedi i’r ddau foicotio’r etholiad gan ddweud bod ei ymgeisyddiaeth yn anghyfreithlon.

Mae’r gwrthwynebwyr yn honni bod eu cartrefi wedi dioddef ymosodiadau dros nos, ac mae pryderon y gallai trais yn y wlad gynyddu.

Cafodd 3,000 o bobol eu lladd ddegawd yn ôl yn dilyn pleidlais amheus yn y wlad, ac mae lle i gredu bod 30 o bobol eisoes wedi marw y tro hwn.

Yn ôl adroddiadau, mae mwy na 3,200 o drigolion eisoes wedi ffoi o’r wlad i wledydd cyfagos.

Canlyniad

Yn ôl ffigurau swyddogol, derbyniodd yr arlywydd 94.3% o’r pleidleisiau.

Fe wnaeth 53.9% o’r boblogaeth gymwys bleidleisio, wrth i 10% o gefnogwyr y gwrthbleidiau gymryd rhan.

Enillodd yr unig wrthwynebydd, Kouadio Konan Bertin, 1.99% o’r bleidlais.

Cafodd 40 allan o 44 o ymgeiswyr eu hatal rhag sefyll, gan gynnwys y cyn-brif weinidog Guillaume Soro a’r cyn-arlywydd Laurent Gbagbo.

Fe fu’r arlywydd wrth y llyw ers degawd ac roedd e wedi bwriadu camu o’r neilltu cyn marwolaeth ymgeisydd ei blaid fis Gorffennaf.

Mae’n gwrthod derbyn bod yr uchafswm o ddau dymor wrth y llyw yn berthnasol iddo fe oherwydd refferendwm ar y cyfansoddiad yn 2016.

Mae’n 78 oed erbyn hyn, ac mae’n dweud nad yw’n debygol o sefyll eto ymhen pum mlynedd.