Dylai teithwyr rhyngwladol gyfyngu eu symudiadau am hyd at saith diwrnod os caiff profion coronafeirws eu cyflwyno ar hediadau, yn ôl arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn Iwerddon.

Mae NPHET hefyd yn dweud mewn adroddiad y dylid gwirio symptomau a chynnal prawf ar bumed diwrnod y cyfnod hwnnw.

Hyd yn oed wedyn, mae rhybudd y gallai hyd at 15% o achosion sy’n cael eu mewnforio gael eu methu.

Yn ôl Dr Tony Holohan, prif swyddog meddygol Iwerddon, dydy hi ddim yn ddiogel teithio’n rhyngwladol o hyd, ac mae wedi tynnu sylw at y cynnydd mewn achosion ledled Ewrop o gymharu â llai o ymlediad cymunedol yn Iwerddon dros yr wythnosau diwethaf.