Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi ei fod yn agor cronfa newydd fydd yn cynnig cymorth i elusennau farchnata eu gwasanaethau Cymraeg.

Bydd elusennau sydd wedi llunio cynllun datblygu’r Gymraeg a chytuno ar eu Cynnig Cymraeg i’r cyhoedd yn gallu gwneud cais am hyd at £500.

Mae gan y Comisiynydd dîm sy’n gweithio gydag elusennau a busnesau yn eu hannog a’u cynorthwyo i gynnig mwy o wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Trwy greu cynllun datblygu’r Gymraeg  gyda Thîm Hybu’r Comisiynydd, maen nhw’n creu cytundeb i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

“Rydym yn hynod falch o allu cynnig y cymorth hwn mewn cyfnod anodd i amryw o sectorau, gan gynnwys elusennau,” meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg

“Mewn cyfnod pan fo popeth yn newydd a sefyllfaoedd yn newid yn ddyddiol, mae cael sicrwydd fod gwasanaethau ar gael yn eich iaith gyntaf yn gysur i bawb, ac yn hanfodol i rai.

“Rydym hefyd, wrth gwrs, yn gobeithio y bydd y gronfa hon yn annog elusennau sydd heb wneud cynllun datblygu’r Gymraeg eto i gysylltu â ni, a sicrhau fod y Gymraeg yn cael lle cyfartal o fewn eu helusen.”

“Awyddus iawn i wneud mwy trwy gyfrwng y Gymraeg”

“Mae elusennau yn awyddus iawn i wneud mwy trwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym yn ffodus o Dîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg sy’n cynnig cymorth ymarferol a strategol i wneud hynny,” meddai Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Sector yn WCVA, corff sydd yn cynrychioli sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru.

“Ond y gwir amdani ydy fod amryw o elusennau yn wynebu cyfnod anodd, a bod arian i farchnata’r cynigion hyn yn brin.

“Rydym yn mawr obeithio y gwnaiff amryw fanteisio ar y cyfle hwn i gael cymorth ariannol er mwyn sicrhau fod y cyhoedd yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd yna i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn eu helusen.”