Mae’r Athro Brifardd Mererid Hopwood wedi galw ar y Cymry i beidio â gwastraffu manteision gwleidyddol a diwylliannol dwyieithrwydd.

Mae hi’n un o drefnwyr cynhadledd Trwy Brism Iaith fydd yn dod â gwleidyddion, academyddion a’r cyfryngau at ei gilydd i archwilio sut y gall Cymru harneisio ei threftadaeth ieithyddol unigryw yn well.

Fis Hydref cafodd ei phenodi’n Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae angen i ni feddwl eto beth mae gallu deall a siarad mwy nag un iaith yn ei olygu,” meddai.

“Dyw hyn ddim yn fater syml o gael mwy nag un label am yr un set o wrthrychau.

“Mae’n ymwneud ag agor y meddwl i fyd o bosibiliadau gwahanol.

“Mae iaith yn fwy na pholisi ac addysgeg”

Eglurodd Mererid Hopwood y gallai penderfyniadau polisi effeithio ar allu Cymru i greu diwylliant bywiog a llewyrchus gyda miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

“Mae iaith yn fwy na pholisi ac addysgeg a meysydd cul o arbenigedd, mae’n ymwneud â phobl.

“Dyma sydd wrth galon profiad a dealltwriaeth ddynol.”

Y gobaith yw y bydd Trwy Brism Iaith yn dod â siaradwyr o bedwar ban byd at ei gilydd.

Bydd yn canolbwyntio ar sut mae iaith yn creu ymdeimlad o hunaniaeth, perthyn ac amrywiaeth ddiwylliannol.

Bydd hefyd yn cyfeirio at y gwersi a gafodd eu dysgu yng Nghymru, a’r gwersi y gall Cymru eu dysgu gan wledydd eraill.

“Gobeithio y bydd y gynhadledd hon, yn y ffordd mae’n dod â chynifer o agweddau o ymchwil iaith at ei gilydd, yn gweithredu fel prism fydd yn ein galluogi i weld mwy o’r sbectrwm o bosibiliadau y gall dwyieithrwydd ac amlieithrwydd eu cynnig.”

Bydd y gynhadledd, sydd wedi’i threfnu gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn cael ei chynnal ar-lein ddiwedd mis Tachwedd.