Mae Michael Gove, un o weinidogion Llywodraeth Prydain, wedi ymddiheuro am ddatgan y cyngor anghywir y gall fod hawl gan bobol i chwarae tenis a golff yn ystod y cyfnod clo yn Lloegr.

Mae Downing Street yn mynnu na fyddan nhw’n newid eu penderfyniad i gau cyrsiau golff a chlybiau tenis yn ystod cyfnod y cyfyngiadau fydd yn dod i rym ddydd Iau (Tachwedd 5).

Mae’r llywodraeth eisoes dan y lach am wahardd gweithgareddau chwaraeon i blant y tu allan i’r ysgol yn ystod y cyfnod i ddod – penderfyniad sydd wedi’i alw’n “chwerthinllyd” gan Robbie Savage, cyn-bêldroediwr Cymru sydd bellach yn sylwebydd radio.

Dryswch

Yn ystod sesiwn holi ar-lein gyda phlant ddoe (dydd Llun, Tachwedd 2), dywedodd Michael Gove, aelod seneddol Surrey Heath, y gallai fod yn bosib chwarae tenis unigol.

Dywedodd fod y llywodraeth yn ystyried rhoi’r hawl i bobol chwarae golff gydag un person arall, yn groes i benderfyniad y prif weinidog Boris Johnson i beidio ag ildio i’r pwysau a chadw cyrsiau golff ar agor yn ystod y cyfnod clo dros dro.

“Y peth allweddol yma, dw i’n meddwl, yw y byddwch chi fwy na thebyg yn cael parhau i chwarae tenis unigol ar hyn o bryd,” meddai Michael Gove yn ystod y sesiwn.

“Y canllawiau sydd gyda ni yw y gall pobol wneud ymarfer corff ag un person arall os ydyn nhw’n cadw pellter cymdeithasol priodol.

“Dyna pam wnes i grybwyll golff yn gynharach.

“Bydd rhaid i glybiau golff gau, ond rydym yn edrych ar roi’r hawl i bobol chwarae ar gyrsiau golff ag un person arall wrth gadw pellter priodol.”

Ymddiheuriad

Ond erbyn hyn, mae Michael Gove wedi ymddiheuro ar Twitter am ei sylwadau, gan ychwanegu dolen at ganllawiau Llywodraeth Prydain.

“Ymddiheuriadau, ges i hyn yn anghywir,” meddai.

“Bydd cyfleusterau hamdden awyr agored gan gynnwys cyrtiau tenis a chyrsiau golff ar gau o ddydd Iau.”

Ac mae Oliver Dowden, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, wedi cadarnhau gwaharddiad dros dro ar chwaraeon ar lawr gwlad y tu allan i’r ysgol.

Dywedodd fod hyn er mwyn arafu ymlediad y coronafeirws, ac y byddai gweithgareddau’n dechrau eto “cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny”.

Beirniadaeth gan Robbie Savage

Mae Robbie Savage wedi beirniadu’r gwaharddiad ar chwaraeon y tu allan i’r ysgol, ac yntau’n hyfforddi tîm pêl-droed i blant.

Mae’n dweud bod yna anghysondeb wrth adael i blant wneud chwaraeon yn yr ysgol, ond eu gwahardd y tu allan i’r ysgol.

Mae’n dweud bod y penderfyniad yn “chwerthinllyd”.

“Dw i’n edrych ar drydariadau Oliver Dowden neithiwr ac mae cymaint o anghysonderau,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Y plant hyn, mae angen gweithgarwch meddyliol a chorfforol arnyn nhw er mwyn ysgogi eu hunain ar y penwythnos, mae’n chwerthinllyd.”

Mae e wedi lansio deiseb sydd wedi denu dros 15,000 o lofnodion erbyn hyn.