Mae arbenigwyr o’r byd academaidd a’r sector wirfoddol yn cynnal prosiect ymchwil er mwyn cymharu agweddau trigolion pedair gwlad Prydain i wirfoddoli yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Bydd canlyniadau’r ymchwil yn cael eu rhannu gyda’r nod o lunio polisi’r dyfodol a chefnogi’r adferiad economaidd a chymdeithasol.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth a phum prifysgol arall yng ngwledydd Prydain, ynghyd â chynrychiolwyr o amryw o sefydliadau gwirfoddol, gan gynnwys cyrff isadeiledd y sector wirfoddol yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae bron i £420,000 wedi ei ddarparu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n rhan o gorff Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI).

Bydd Rhys Dafydd Jones o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, yn gweithio gyda thimau ymchwil o Brifysgol Northumbria, Prifysgol East Anglia, Prifysgol Caint, Prifysgol Essex a Phrifysgol Stirling.

A bydd cynrychiolwyr o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), Volunteer Scotland, Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO), a Volunteer Now Gogledd Iwerddon yn gweithio ochr yn ochr ag academyddion.

Edrych ar effaith y coronafeirws ar wirfoddolwyr

Bydd rhan gyntaf y prosiect – ‘Ysgogi Gweithredu Gwirfoddol ym mhedair awdurdodaeth y DU: Dysgu o heddiw, barod am yfory’ yn ymchwilio i ba mor barod oedd pob un o’r pedair gwlad cyn dyfodiad y pandemig.

Yn ogystal, bydd y prosiect yn edrych ar ba rôl chwaraeodd gweithredoedd a sefydliadau gwirfoddol ynghyd â gwirfoddolwyr wrth baratoi ar gyfer y feirws.

Wedyn, bydd y tîm yn ymchwilio i effaith y coronafeirws ar wirfoddolwyr a gwirfoddoli, megis gorfod atal gweithgareddau wyneb yn wyneb a chyflawni prosiectau mewn ffyrdd newydd.

Pan fydd y dystiolaeth wedi ei chasglu, bydd yn cael ei dadansoddi, gyda’r canlyniadau yn cael eu cyflwyno mewn cyfres o sesiynau briffio i lywodraethau gwledydd Prydain.

Effaith y pandemig

“Nid yn unig mae’r pandemig wedi ymyrryd â’n bywydau unigol oll, ond hefyd ein cysylltiadau hirhoedlog a’r dealltwriaethau rhwng gweithredu gwirfoddol a llywodraethau ar eu gwahanol lefelau,” meddai Rhys Dafydd Jones.

“Bydd y prosiect hwn yn ein cynorthwyo er mwyn deall y darlun newydd sy’n datblygu ynghyd â chynorthwyo’r ymdrech dorfol er mwyn gwella’n genedlaethol.”

“Rydym yn gwybod ein bod yn wynebu dyfodol ansicr ond mae cyflawni lles cymdeithasol, gyda’r wladwriaeth yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector wirfoddol, yn hanfodol er mwyn i ni ddod drwy hyn fel gwlad,” meddai’r Athro Irene Hardhill o Brifysgol Northumbria wedyn.