Mae pôl newydd Baromedr Gwleidyddol Cymru’n darogan twf bach yn y gefnogaeth i ddiddymu’r Senedd, ac y bydd y Blaid Lafur yn ennill cyfanswm o 28 sedd yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.

Gallai’r nifer sydd o blaid diddymu’r Senedd erbyn hyn weld y blaid honno’n cipio seddi yn y Senedd.

Rhwng y saith pwynt canran i’r blaid – eu ffigwr gorau erioed yn y pôl – a’r pum pwynt canran sydd gan Blaid Brexit, mae’n ymddangos bod mwy o gefnogaeth erbyn hyn i’r pleidiau sy’n gwrthwynebu datganoli.

Mae’r pôl yn dangos bod:

  • 23% o drigolion Cymru o blaid annibyniaeth (i lawr o 25% yn y pôl diwethaf)
  • 53% yn erbyn (i lawr o 54%)
  • 16% yn ansicr (i fyny o 13%)
  • 7% yn dweud na fydden nhw’n pleidleisio (heb newid), a
  • 2% yn gwrthod dweud (i fyny o 1%).

Ar yr un pryd, dywedodd:

  • 27% eu bod nhw o blaid diddymu’r Senedd (i fyny o 25% yn y pôl diwethaf)
  • 48% yn erbyn (heb newid)
  • 15% yn ansicr (i lawr o 16%)
  • 9% yn dweud na fydden nhw’n pleidleisio (i fyny o 8%), a
  • 3% yn gwrthod dweud (heb newid).

Mae’r pôl piniwn hefyd yn darogan llwyddiant i’r Blaid Lafur yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.

Mae’r pôl yn mynd i’r afael â nifer o bynciau llosg yn ystod y cyfnod clo dros dro, gan gynnwys y ffordd mae Llywodraeth Cymru’n ymateb i’r coronafeirws, a’r awgrym yw y gallai Llafur gryfhau eu gafael ym Mae Caerdydd.

Tra bod materion datganoledig, gan gynnwys iechyd, i’w gweld yn cynyddu’r gefnogaeth i Lafur, maen nhw hefyd i’w gweld yn cynyddu’r gefnogaeth i Blaid Diddymu’r Cynulliad.

San Steffan

Mae’r ffigurau cyntaf yn edrych ar fwriadau pleidleisio etholwyr yn San Steffan, mae’r ffigwr mewn cromfachau yn dangos y newid ers y pôl blaenorol ym mis Medi.

Llafur: 43% (+2)

Ceidwadwyr: 32% (-1)

Plaid Cymru: 13% (-2)

Plaid Brexit: 5% (+1)

Y Blaid Werdd: 3% (dim newid)

Democratiaid Rhyddfrydol: 3% (+1)

Eraill: 2% (dim newid)

Dyma ganlyniad pôl piniwn gorau Llafur o ran San Steffan ers mis Rhagfyr 2018.

O ran seddau, fe ddylai’r darlun edrych fel hyn o ganlyniad:

Llafur: 27 (+5)

Ceidwadwyr: 9 (-5)

Plaid Cymru: 4 (dim newid)

Y dyfalu yw y gallai Llafur gipio’r seddi canlynol oddi ar y Ceidwadwyr – Delyn, Pen-y-bont, De Clwyd, Dyffryn Clwyd ac Ynys Môn.

O blith y seddi wnaeth y Ceidwadwyr eu cipio yn yr etholiad cyffredinol y llynedd, dim ond Wrecsam maen nhw’n debygol o’i chadw.

Bae Caerdydd

Dyma’r darlun o ran etholaethau’r Senedd ym Mae Caerdydd:

Llafur: 38% (+4)

Ceidwadwyr: 27% (-2)

Plaid Cymru: 20% (-4)

Plaid Brexit: 5% (+1)

Democratiaid Rhyddfrydol: 3% (dim newid)

Y Blaid Werdd: 3% (dim newid)

Eraill: 4% (+1)

Rhestr ranbarthol

Dyma sut mae’r rhestr ranbarthol yn edrych ledled Cymru, sy’n awgrymu perfformiad gorau Llafur unwaith eto ers 2018.

Llafur: 33% (dim newid)

Ceidwadwyr: 24% (-3)

Plaid Cymru: 20% (-3)

Diddymu’r Cynulliad: 7% (+3)

Plaid Brexit: 5% (+1)

Y Blaid Werdd: 4% (dim newid)

Democratiaid Rhyddfrydol: 4% (+1)

Eraill: 3% (+1)

Felly dyma sut ddylai’r seddi rhanbarthol edrych:

Gogledd Cymru: 2 i’r Ceidwadwyr, 1 i Blaid Cymru, 1 i Blaid Diddymu’r Cynulliad

Canolbarth a Gorllewin Cymru: 2 i Lafur, 1 i’r Ceidwadwyr, 1 i Blaid Diddymu’r Cynulliad

Gorllewin De Cymru: 2 i’r Ceidwadwyr, 2 i Blaid Cymru

Canol De Cymru: 2 i’r Ceidwadwyr, 1 i Blaid Cymru, 1 i Blaid Diddymu’r Cynulliad

Dwyrain De Cymru: 2 i’r Ceidwadwyr, 1 i Blaid Cymru, 1 i Blaid Diddymu’r Cynulliad

Dyma sut ddylai’r canlyniad terfynol edrych, felly:

Llafur: 28 sedd (26 etholaeth, 2 ranbarth)

Ceidwadwyr: 16 sedd (7 etholaeth, 9 ranbarth)

Plaid Cymru: 11 sedd (6 etholaeth, 5 ranbarth)

Diddymu’r Cynulliad: 4 sedd ranbarth

Democratiaid Rhyddfrydol: 1 sedd etholaeth

Sylwadau

“Ar y cyfan, dydy ein pôl newydd yn sicr ddim yn awgrymu bod Llafur yng Nghymru’n dioddef canlyniadau gwleidyddol negyddol o ganlyniad i’r cyfnod clo dros dro,” meddai’r adroddiad gan yr Athro Roger Scully ar gyfer ITV a Phrifysgol Caerdydd.

“Os rhywbeth, mae’n ymddangos bod y gwrthwyneb yn wir gyda chefnogaeth y blaid yn ymddangos fel pe bai’n cryfhau’n fwy sylweddol ym mhleidlais etholaethau’r Senedd nag ar gyfer San Steffan.

“Yn ogystal â ffactorau sy’n gyffredin i wleidyddiaeth ledled Prydain – megis poblogrwydd y prif weinidog Boris Johnson yn gostwng, anfodlonrwydd ag ymdriniaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig o’r argyfwng Covid-19 ac effaith Syr Keir Starmer ar ganfyddiadau o ran y Blaid Lafur – mae parhad argyfwng mawr mewn maes datganoledig fel iechyd wedi dod â gwleidyddiaeth ddatganoledig i’r amlwg.

“Ar hyn o bryd, mae hyn fel pe bai o fantais i Lafur yng Nghymru.

“Ond fe all fod yn helpu plaid wrth-ddatganoli amlwg fel Diddymu’r Cynulliad i gynaeafu cefnogaeth ychwanegol gan rai sy’n ddig ynghylch dull y llywodraeth yng Nghymru o ymdrin â’r argyfwng.”