Mae ITV wedi cadarnhau y bydd y gyfres newydd o I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here!, sy’n cael ei ffilmio yng Nghymru, yn dechrau ar Dachwedd 15.

Mae’r gyfres realiti wedi’i ffilmio yn Awstralia ers iddi ddechrau yn 2002 ond eleni, mae’n cael ei ffilmio yng nghastell Gwrych, Abergele, yn sgil pandemig y coronafeirws.

Yn ôl adroddiadau, mae Syr Mo Farah, yr actores Ruthie Henshall a chyflwynydd y BBC Victoria Derbyshire ymhlith y sêr fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen eleni.

Hysbysebion Hunllefus

Mae hysbysebion diweddar wedi dangos cyflwynwyr y rhaglen, Ant a Dec, yn ceisio dod o hyd i’r gwersyll.

Dangosa’r cyntaf y ddau, sy’n credu eu bod yn Awstralia, yn cael eu gollwng gan dacsi yng nghefn gwlad Cymru.

“Chi yng Nghymru, butt,” meddai’r gyrrwr mewn acen y Cymoedd, er ei fod yng Nghonwy.

Mae un arall yn dangos y pâr mewn caffi Cymreig ac yn awyddus i gael blasu bwyd o Awstralia, dim ond i gael cacennau cri.

Ac mewn un arall fyth, mae’r ddau yn cerdded yn y glaw wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i’r gwersyll gan ddefnyddio map.

“Wel, dyma’r haf oeraf yn Awstralia erioed,” meddai Dec.

Yna mae Ant yn defnyddio ei ffôn i geisio dod o hyd i’r lleoliad ffilmio cyn iddo chwarae’r neges ganlynol yn ôl….