Fe fydd orielau a chaffi MOMA Machynlleth yn ail-agor ddiwedd y mis, cyhoeddodd cyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 2).

Bydd yn agored am ddau ddiwrnod yr wythnos ar ddyddiau Mercher a Sadwrn o 10yb tan 4yp, o Dachwedd 28 ymlaen, yn amodol ar gyfyngiadau Llywodraeth Cymru.

Bydd ei harddangosfeydd agoriadol yn cynnwys Artistiaid Ifainc Cymru a Chymdeithas yr Engrafwyr Pren.

Mae’r digwyddiad, sy’n dangos gwaith artistiaid o dan 30 oed yng Nghymru, yn cael ei gynnal bob blwyddyn ym MOMA Machynlleth.

Yr artistiaid sy’n cael eu cyflwyno yn yr arddangosfa agoriadol yw Lili Hauser, Elin Hughes, Guto Morgan, Abby Poulson, Rhiannon Rees, Jasmine Sheckleford, Owain Sparnon, Tomos Sparnon, Ethan Dodd a Sara Treble-Parry.

Bydd mesurau diogelwch llym mewn grym os bydd yr arddangosfa’n agored i’r cyhoedd ond fel arall, bydd yr arddangosfa’n cael ei ffilmio ac i’w gweld ar-lein.

Trefniadau

Mae orielau Cymru wedi cael yr hawl i ail-agor ers diwedd mis Gorffennaf.

Pan gysylltodd cylchgrawn Golwg gyda’r oriel bryd hynny nid oedden nhw’n gallu cadarnhau p’un a oedd ganddyn nhw fwriad ail-agor ai peidio. Bu’n rhaid i’r oriel ohirio’i gŵyl gerddorol flynyddol ym mis Awst – Gŵyl Machynlleth – am flwyddyn, gan drefnu cyngerdd ar-lein ar Awst 30.

“Mae diogelwch ymwelwyr yn bwysig i ni ac mae staff MOMA Machynlleth wedi bod wrthi’n brysur yn rhoi trefniadau yn eu lle i helpu i gadw ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff yn ddiogel yn ystod COVID-19,” meddai datganiad gan Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth.

“Mae’r trefniadau hyn yn cynnwys cymryd manylion cyswllt ar gyfer tracio ac olrhain, gwneud gwisgo masgiau wyneb yn orfodol, mannau diheintio dwylo ar gael ledled yr adeilad, systemau unffordd ar waith ledled yr orielau gyda mynedfeydd ac allanfeydd ar wahân i ymwelwyr, ymweliadau â’r orielau drwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig, cyfyngu ar faint y grwpiau y caniateir mynediad iddynt yn unol â chanllawiau cyfredol, a threfn lanhau arbennig yn ei lle gydag arwynebau’n cael eu glanhau rhwng pob ymweliad sydd wedi’i drefnu.”