Mae label Zelebritee wedi cyhoeddi y bydd She’s Got Spies yn rhyddhau albwm newydd dairieithog.
Bydd ‘Isle of Dogs’ ar gael ar Dachwedd 6, a daw yn dilyn sengl ‘Super Sniffer Dogs’ gafodd ei ryddhau ar Hydref 23.
Prosiect Laura Nunez a chasgliad o gerddorion ydi She’s Got Spies, a ddechreuodd fel prosiect yn 2005 gyda Matthew Evans, aelod o’r band Keys.
Dyma’r ail albwm i She’s Got Spies ryddhau, yn dilyn yr albwm Gymraeg ‘Wedi’ yn 2018.
Mae enw’r albwm yn cyfeirio at ardal o Lundain, tref gartref Laura Nunez, yn ogystal â helyntion presennol ynys Prydain.
Mae Laura Nunez yn treulio ei hamser rhwng Caerdydd a Llundain, ac yn gallu canu yn Gymraeg, Saesneg a Rwsieg.
Yn wreiddiol o Lundain, symudodd Laura Nunez i Gaerdydd a dysgodd Gymraeg ar ôl cael ei hysbrydoli gan fandiau megis Zygotic Mynci Gorky a’r Super Furry Animals.
Amryw o gerddorion
Mae’r holl ganeuon wedi cael eu hysgrifennu gan Laura Nunez, ar wahân i dair sydd wedi’u cyd-ysgrifennu gan Gruff Meredith (MC Mabon), sydd hefyd wedi eu cyd-gynhyrchu gyda Frank Naughton.
Cafodd yr albwm ei recordio yn stiwdios Tŷ Drwg yng Nghaerdydd.
Mae aelodau band She’s Got Spies yn cynnwys Gareth Middleton (gitâr) a Mel Beard (glockenspiel/ allweddellau) ar rai traciau, yn ogystal â Pixy Jones (o’r band El Goodo) ar y gitâr, Andy Fung (o’r band Derrero) ar y drymiau a’r cynhyrchydd Frank Naughton ar y piano, synths, gitâr, gitâr bas, llinynnau ac offerynnau taro.