Mae Dr Andrew Goodall wedi bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa’r coronafeirws yng Nghymru, gan ddweud bod Cymru’n wynebu “gaeaf anodd”.

Eglura prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mai’r nod yw parhau i ymateb i’r coronafeirws a chynnal gwasanaethau brys a chymaint o weithgarwch y Gwasanaeth Iechyd â phosibl cyhyd ag sy’n bosibl.

“Rydym am sicrhau ein bod yn cydbwyso ei ymateb brys ochr yn ochr â’r gwasanaethau rydym wedi’u hadfer yn raddol,” meddai.

“Ond yr uchaf yw lefel y coronafeirws yn y gymuned, yr anoddaf yw cyflawni hyn.”

Y Gwasanaeth Iechyd bellach yn brysurach wrth i wasanaethau ailgychwyn

Eglura fod y Gwasanaeth Iechyd yn brysurach wrth i wasanaethau ailgychwyn, ond nad yw pob gwasanaeth wedi dychwelyd i’r lefelau arferol.

“Bu rhaid i ni ohirio llawdriniaethau ac apwyntiadau ar ddechrau’r pandemig i helpu’r Gwasanaeth Iechyd.

“Mae gweithgarwch ar draws y Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn ailgychwyn yn raddol sy’n golygu bod y Gwasanaeth Iechyd bellach yn brysurach.

“Mae darparu gwasanaethau arferol mewn amgylchedd lle mae’r coronafeirws yn lledu yn anodd iawn.

“Darparu gofal diogel yw ein blaenoriaeth gyntaf bob amser.”

Ychwanega fod ymateb y Gwasanaeth Iechyd i’r coronafeirws yn lleihau nifer y cleifion sy’n gallu cael eu gweld a’u trin ar unwaith.

“Mae hyn yn golygu bod amseroedd aros a rhestr aros y Gwasanaeth Iechyd ledled y Deyrnas Unedig yn cynyddu – a dyma ein patrwm ni yng Nghymru hefyd,” meddai wedyn.

Ffigurau diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd:

  • 1,275 o gleifion sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws mewn ysbytai yng Nghymru ar hyn o bryd – 18% yn uwch na’r wythnos diwethaf.
  • Un o bob chwech o bobol mewn gwelyau ysbyty yno oherwydd y coronafeirws – dim ond 9% yn is na’r uchafbwynt ym mis Ebrill.
  • 57 o bobol sydd â’r coronafeirws yn cael eu trin mewn unedau gofal dwys ar hyn o bryd – 12% yn uwch na’r wythnos diwethaf.
  • Traean o gapasiti unedau gofal dwys Cymru bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion sydd â’r coronafeirws.
    • Capasiti unedau gofal dwys arferol Cymru o 152 o welyau yn llawn, mae 164 o bobol mewn unedau gofal dwys yng Nghymru, yn bennaf gyda phobol nad oes ganddynt y coronafeirws.
    • Mae cynlluniau ar y gweill i ehangu’r capasiti gofal critigol hwn os oes angen.
    • Amcangyfrif bod bron i 16,000 o bobol wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty ar ôl cael eu trin am y coroanafeirws ers dechrau’r pandemig.
  • 90 o bobol yn cael eu derbyn i ysbytai yng Nghymru gyda Covid-19 bob dydd.