Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cynlluniau i brofi holl drigolion Lerpwl ar gyfer y coronafeirws fel rhan o gynllun peilot.
Bydd y profion yn cael eu cynnig i holl drigolion y ddinas.
Bydd modd i drigolion gael profion rheolaidd o ddydd Gwener (Tachwedd 6), hyd yn oes os nad oes ganddyn nhw symptomau.
Yn ogystal â’r profion sydd eisoes yn cael eu defnyddio, bydd modd i bobol gael prawf newydd sy’n rhoi canlyniadau’n gyflym.
Bydd technoleg newydd hefyd yn cael ei ddefnyddio yn ysbytai’r ddinas, fydd yn galluogi staff i gynnal profion ar raddfa eang.
Bydd modd cael prawf mewn ysbytai, cartrefi gofal, ysgolion, prifysgolion, gweithleoedd ac yn y cartref, a gall pobol archebu prawf ar y we, mewn canolfannau galw heibio neu drwy wahoddiad gan yr awdurdod lleol.
Bydd canlyniadau’n cael eu rhoi drwy neges destun ac e-bost gan y Gwasanaeth Iechyd, a bydd gofyn i bobol sy’n cael prawf positif hunanynysu yn y modd arferol.