Mae tîm ymgyrchu Joe Biden wedi cyhuddo’r Arlywydd Donald Trump o “ymdrech noeth i ddileu hawliau democrataidd trigolion Americanaidd.”

Fe ddaw wrth i’r arlywydd fygwth troi at y llys i herio canlyniad yr etholiad, wrth i rai polau ddarogan buddugoliaeth i’r Democratiaid.

“Roedd datganiad yr Arlywydd heno am geisio atal cyfri pleidleisiau dilys yn warthus, yn ddi-gynsail ac yn anghywir,” meddai llefarydd.

“Roedd yn ddi-gynsail oherwydd dydy’r un arlywydd yn hanes yr Unol Daleithiau erioed wedi ceisio tynnu llais Americanwyr oddi arnyn nhw mewn etholiad cenedlaethol.

“Ar ôl annog ymdrechion Gweriniaethol mewn sawl talaith i atal cyfri’r pleidleisiau hyn yn gyfreithlon cyn diwrnod yr etholiad, nawr mae Donald Trump yn dweud nad oes modd cyfri’r pleidleisiau hyn ar ôl diwrnod yr etholiad chwaith.”