Mae’n debyg y bydd y Democratiaid yn cadw rheolaeth dros Dŷ’r Cynrychiolwyr yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, ond mae eu gobeithion o ehangu ar eu mwyafrif yn prysur ddiflannu.

Mae’r pleidiau wedi cyfnewid llond llaw o seddi, ond mae canlyniadau’r pleidleisio’n datblygu’n etholiad annisgwyl o siomedig i’r blaid.

Yn ôl y disgwyl, cipiodd y Democratiaid gwpl o seddi yn Ogledd Carolina.

Ond ar ôl degawdau o geisio, trechodd y Gweriniaethwr y cynrychiolydd Collin Peterson o ardal wledig ym Minnesota, oedd wedi cefnogi Donald Trump yn 2016.

Gwrthwynebodd Collin Peterson, sy’n cadeirio Pwyllgor Amaethyddiaeth y Tŷ, uchelgyhuddiad Trump ac mae’n un o Ddemocratiaid mwyaf ceidwadol y Tŷ.

Cafodd ei drechu gan y Gweriniaethwr Michelle Fishbach.

Mae’r Democratiaid Debbie Mucarsel-Powell a Donna Shalala hefyd wedi colli, wrth i gefnogaeth i’r blaid ddisgyn mewn ardaloedd yn ne Florida, lle mae Trump wedi atgyfnerthu ei gefnogaeth ymhlith pleidleiswyr.

Pe bai’r Democratiaid yn cadw mwyafrif yn y Tŷ, hwn fydd yr ail dro yn unig ers chwarter canrif y byddan nhw wedi rheoli’r siambr ddwywaith yn olynol.

Roedd gobeithion y Democratiaid o ddiogelu eu mwyafrif a hyd yn oed ei ehangu yn seiliedig ar bryder y cyhoedd ynghylch y pandemig, teimlad bod Donald Trump wedi dieithrio pleidleiswyr mewn maestrefi, yn ogystal â’r ffaith eu bod nhw wedi codi mwy o arian na’r Gweriniaethwyr.

Ond mae’n annhebygol y bydd y manteision hynny yn cario’r blaid cyn belled ag yr oedden nhw wedi ei obeithio.

Etholiad amddiffynnol i’r Gweriniaethwyr

Cyn dechrau cyfri’r pleidleisiau, roedd hi’n amlwg bod hwn yn etholiad amddiffynnol i’r Gweriniaethwyr, gan geisio cyfyngu ar enillion y Democratiaid.

Y Democratiaid sy’n rheoli’r Tŷ o 232-197, gyda phum sedd agored ac un annibynnol.

Mae’n cymryd 218 sedd i reoli’r siambr.

Yn gynharach heddiw (dydd Mawrth, Hydref 4), dywedodd Llefarydd y Tŷ, Nancy Pelosi, ei bod hi’n “hollol sicr” y byddai’r Democratiaid yn cadw rheolaeth dros y Tŷ.

A gyda gobeithion y Gweriniaethwyr o gipio’r Tŷ yn eithriadol o isel cyn yr etholiad, mae’r canlyniadau’n debygol o gael eu gweld fel derbyniol i blaid yr Arlywydd.

Collodd y Democratiaid gyfres o ganlyniadau agos, gan fethu â threchu’r Gweriniaethwyr yn Cincinnati, Illinois wledig, Virginia ganolog a maestrefi St Louis.