Mae Zip World wedi cyhoeddi eu bod am gau eu safleoedd hyd at fis Chwefror, 2021.
Daw hynny wrth i fesurau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain ei gwneud hi’n “anodd i’r cwmni weithredu fel yr arfer”.
Mewn datganiad, dywed llefarydd ar ran Zip World mai’r brif flaenoriaeth yw “cadw’r tîm, y gymuned a chwsmeriaid yn ddiogel, gan gefnogi’r neges i aros adref”.
Anodd gweithredu fel yr arfer
Er bod y cwmni twristiaeth wedi cael haf llewyrchus, bydd eu safleoedd ym Methesda, Betws y Coed a Blaenau Ffestiniog yn cau dros y gaeaf.
“Mae’r newidiadau cyson yng nghyfyngiadau Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain yn eu hymdrech i frwydro yn erbyn pandemig Covid-19 yn effeithio ar hyder ein cwsmeriaid a’u gallu i deithio. Mae hynny’n golygu ei hi’n anodd i fusnesau weithredu fel yr arfer,” meddai llefarydd.
Dywedodd y cwmni eu bod am droi eu ffocws tuag at y cyfyngau cymdeithasol dros y cyfnod gan ymestyn y dyddiad defnyddio talebau am ddwy flynedd.
“Mae Zip World wedi gadael ein cwsmeriaid wybod am y newidiadau hyn a byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd ar gyfryngau cymdeithasol,” meddai’r llefarydd wedyn.
“Mi fydd 2021 yn flwyddyn hynod gyffrous i’r sector twristiaeth ddomestig yn y Deyrnas Unedig, a gyda lansiad safle newydd sbon yn Ne Cymru sef Zip World Tower, bydd cynlluniau ehangu uchelgeisiol y brand ar ei anterth!”