Mae prif weinidog Slofenia wedi cefnogi honiadau Donald Trump ei fod e wedi ennill etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Mae e wedi bod yn honni bod “twyll enfawr” wrth gyfri’r pleidleisiau.

Mae Janez Jansa wedi troi at Twitter i gefnogi arlywydd yr Unol Daleithiau a’i ddirprwy.

“Mae’n eithaf amlwg fod pobol America wedi ethol @realDonaldTrump @Mike_Pence am #4blyneddarall,” meddai.

“Mwy o oedi a gwadu ffeithiau gan #MSM [y cyfryngau prif ffrwd], yn fwy na gorfoledd terfynol #POTUS [arlywydd yr Unol Daleithiau].

“Llongyfarchiadau @GOP am ganlyniadau cryf ar draws yr #UDA.”