Rhaid sicrhau nad oes clo cenedlaethol arall yn cael ei gyflwyno yng Nghymru wedi i’r ‘clo dros dro’ ddod, yn ôl Adam Price.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru wrth iddo lansio strategaeth Covid ei blaid.

Mae Plaid Cymru yn galw am roi cymorth o hyd at £800 i’r rheiny sydd yn hunanynysu, ac am weld cyfyngiadau teithio’n parhau i bobol o lefydd eraill yng ngwledydd Prydain lle mae lefelau Covid uchel.

Mae’r Blaid hefyd yn galw am leihau dibyniaeth Cymru ar ‘labordai goleudy’ – rhwydwaith o labordai sy’n cael eu rheoli gan Lywodraeth San Steffan a’u rhedeg gan gwmnïau preifat.

“Strategaeth newydd”

“Wrth i’r pandemig rhygnu ymlaen, o bosib am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i ddod, daw’r angen i ni ddilyn trywydd gwahanol sydd yn fwy cynaliadwy,” meddai Adam Price.

“Rhaid i’r Llywodraeth amlinellu cynllun ar gyfer y chwe mis nesa’, a gweledigaeth ehangach ar gyfer y 18 mis nesa’.

“Rydyn ni’n methu parhau i osod a chodi cyfyngiadau cenedlaethol.

“Rhaid i’r ‘clod dros dro’ fod yr un diwethaf o’i fath.

“Mae’n bryd i ni fabwysiadu strategaeth newydd.

“Trywydd newydd i sicrhau ein bod yn medru dychwelyd at fywyd normal – lle bo hynny’n bosib.”