Mae gobeithion y Democratiaid o gipio rheolaeth dros Senedd yr Unol Daleithiau yn prysur ddiflannu, wrth i’r Gweriniaethwyr wrthsefyll amryw o sialensiau i’w mwyafrif.

Mae sawl ras yn dal i gael eu cyfrif heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 4), gydag o leiaf un yn mynd at bleidlais arall ym mis Ionawr.

Bydd yn ganlyniad siomedig i’r Democratiaid a oedd wedi dyfeisio map gwleidyddol estynedig, ac yn awyddus i gipio mwyafrif y Gweriniaethwyr yn y Senedd.

Bydd dewisiadau’r pleidleiswyr yn debygol o orfodi ailfeddwl am strategaeth, negeseuon ac agwedd y Democratiaid.

Er bod yn rhaid i’r Democratiaid ennill seddi yn Colorado ac Arizona, cawson nhw eu siomi yn Alabama, wrth i’r Gweriniaethwyr ddal eu tir yn un ras ar ôl y llall – yn Ne Carolina, Iowa, Tecsas, Kansas a Montana – gan gyfyngu ar y mannau lle’r oedd y Democratiaid yn gobeithio gwneud cynnydd.

“Rydych chi wedi gwastraffu lot o arian,” meddai’r Gweriniaethwr Lindsey Graham yn Columbia, De Carolina.

Daw hyn ar ôl iddi drechu’r Democrat Jamie Harrison, er i’r Democratiaid wario $100 miliwn (£77 miliwn) ar ei ymgyrch.

“Dyma’r elw gwaethaf ar fuddsoddiad yn hanes gwleidyddiaeth America,” meddai wedyn.

‘Dydyn ni ddim yn gwybod pa blaid fydd yn rheoli’r Senedd’

Gyda’r Gweriniaethwyr yn rheoli’r Senedd o 53-47, bydd tair neu bedair sedd yn penderfynu pa blaid fydd mewn grym.

Gallai hefyd ddibynnu pwy sy’n ennill yr arlywyddiaeth, gan fod y Dirprwy Arlywydd yn gallu torri canlyniad cyfartal yn y Senedd.

Mae’r canlyniad yn dibynnu ar Alaska, Maine, Michigan a Gogledd Carolina.

Mae arweinydd mwyafrifol y Senedd, Mitch McConnell, wedi cydnabod fod y canlyniad yn ansicr ar hyn o bryd.

“Dydyn ni ddim yn gwybod pa blaid fydd yn rheoli’r Senedd,” meddai.