Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael eu canmol am eu defnydd o’r Gymraeg ac am hybu’r defnydd o’r iaith.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi canmol y llu am eu hagwedd bositif tuag at ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg gyda’r cyhoedd ac o fewn y sefydliad.

Dywed y Comisiynydd fod y llu yn esiampl i sefydliadau eraill yng Nghymru i’w dilyn wrth hybu dwyieithrwydd a chynyddu sgiliau Cymraeg ymysg y swyddogion a staff.

Dywed ymhellach fod “arweinwyr wedi dangos gweledigaeth ac ymroddiad yn cynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg am bron i ddau ddegawd erbyn hyn” a’i fod e am “weld mwy o arweinwyr sefydliadau yn gweithredu yng Nghymru gan ymrwymo yn yr un modd drwy osod gweledigaeth glir a buddsoddi yn ddigonol er mwyn gwneud y weledigaeth honno’n realiti”.

Staff sy’n siarad Cymraeg

“Deallodd Heddlu Gogledd Cymru yn gynnar mai’r ffordd fwyaf effeithiol o gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yw cynyddu’n nifer o staff sy’n gallu siarad Cymraeg,” meddai wedyn.

“Maen nhw wedi cyflawni hyn drwy gasglu data manwl ar sgiliau ieithyddol y gweithlu, gweithredu polisïau recriwtio a hyrwyddo cadarn a chynnig cefnogaeth i staff i wella eu sgiliau.

“Gall pob sefydliad ddysgu o ddulliau systematig Heddlu’r Gogledd i wella sgiliau Cymraeg eu gweithlu.

“Roedd y buddsoddiad mewn cynllunio gweithlu mor fanwl yn golygu bod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg yn 2017 wedi dod yn naturiol i’r sefydliad; ac mae hynny bellach yn eu galluogi i ganolbwyntio ar esblygu ac arloesi ymhellach drwy arbrofi gyda dulliau newydd o ddenu siaradwyr Cymraeg i’r swyddi y mae gwir eu hangen.”

Ymateb

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ers blynyddoedd lawer ac rydym wedi sefydlu Grŵp Iaith Gymraeg yr Heddlu sy’n cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Gwnstabl, Richard Debicki,” meddai’r Prif Uwch Arolygydd Dros Dro, Simon Williams, cadeirydd gweithgor Gweithredu’r Gymraeg yr Heddlu.

“Mae hyn, nid yn unig yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein gofynion cyfreithiol, ond hefyd yn mynd ati i annog y defnydd o’r Gymraeg ym mhob adran.

“Mae’n iawn ac yn gwrtais cynnig dewis iaith i’r cyhoedd sy’n cysylltu â ni ac fel iaith fusnes o fewn yr heddlu i staff sy’n siarad Cymraeg.

“Un o’n hamcanion yn ein Strategaeth Gymraeg yw sicrhau ein bod yn dod yn sefydliad dwyieithog.

“Mae’n bwysig bod gan staff y sgiliau ieithyddol i ymgysylltu’n effeithiol gyda siaradwyr Cymraeg ac i allu cynnig gwasanaeth llawn drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rydym yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg ar gyfer swyddi yn yr Heddlu.

“Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant sgiliau iaith ar draws yr heddlu ar bob lefel ac mae cymorth i staff ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gwaith.

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael ein cydnabod fel hyn gan Gomisiwn y Gymraeg a bod y dull rydym wedi’i gymryd bellach yn cael ei hyrwyddo drwy Gomisiwn y Gymraeg fel enghraifft i eraill ei dilyn.”

‘Balch iawn’

“Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf rwy’n falch iawn bod Heddlu Gogledd Cymru ar flaen y gad yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn ei defnyddio yn gweithle,” meddai Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd.

“Mae llawer o bobl yn honni bod y Gymraeg yn iaith farw, ond mae hynny’n gwbl anghywir ac mae’n dda gallu dangos ei bod hi’n cael ei defnyddio bob dydd a bod yr heddlu yn ceisio sicrhau bod ganddo gyfran debyg o swyddogion Cymraeg eu hiaith i’r boblogaeth yn gyffredinol a’n bod ni yn ceisio recriwtio swyddogion a staff Cymraeg eu hiaith, yn enwedig lle mae galw mawr.

“Mae hawl dewis iaith pan fyddwch yn ffonio’r heddlu yng Ngogledd Cymru ac mae siaradwyr Cymraeg ar gael yn yr ystafell reoli ddydd a nos.

“Mae hyn yn hanfodol oherwydd dylai pobl allu cyfathrebu â ni yn yr iaith y maent fwyaf cyfforddus ynddi.

“Mae Rhian Rhys Roberts o fy swyddfa i yn eistedd ar Fwrdd Iaith Gymraeg yr Heddlu sy’n cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Gwnstabl, sy’n sicrhau cydraddoldeb ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.”

Ychwanegodd Rhian Rees Roberts, Swyddog Craffu’r Comisiynydd sy’n gyfrifol am y Gymraeg ei bod yn “hanfodol bod gennym system graffu gadarn yn ei lle i sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn cyrraedd ei safonau iaith Gymraeg a bod swyddogion a staff yn gallu darparu gwasanaeth yn Gymraeg”.

“Mae’n fater y caiff i ofyn i ni yn aml gan y cyhoedd ac o gofio bod hwn yn fater y mae’r Comisiynydd yn teimlo’n angerddol iawn yn ei gylch mae’n hanfodol ein bod yn arwain drwy esiampl ac yn gweithio’n agos gyda’r heddlu i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin â’r parch y mae’n ei haeddu,” meddai wedyn.