Mae dadwybodaeth (disinformation) yn “rhwystredig” ac yn achosi “heriau” i sefydliadau sydd yn ceisio gweithredu ar net sero i leihau effaith newid hinsawdd.
Dyna beth mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, wedi dweud wrth golwg360.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae dadwybodaeth ynglŷn â net sero a newid hinsawdd wedi cynyddu, yn enwedig ar yr asgell dde.
Mae’r darpar Arlywydd, Donald Trump, wedi awgrymu yn gyson bod newid hinsawdd yn “ffug”.
Yn ôl Derek Walker mae “dadwybodaeth yn dod fyny’r agenda,” meddai wrth golwg360. “Dydy pobl efallai ddim yn credu fod e (newid hinsawdd) ddim yn bryder mawr iddyn nhw a bod ddim rhaid poeni.”
Dywedodd Derek Walker bod etholiad Donald Trump yn esiampl o hyn.
“Felly, mae’n rhaid i ni (ymgyrchwyr newid hinsawdd) barhau i wneud yr achos dros pam mae hyn yn rhywbeth pwysig, ac egluro beth sydd yn digwydd yn ein byd rŵan.”
Cyfeiriodd Derek Walker at y llifogydd diweddar yn Sbaen.
Bu farw 224 o bobl yn y llifogydd, y rhan fwyaf yn Valencia, yn dilyn dyddiau o law trwm.
“Pan rydych yn gweld y llifogydd yma yn Sbaen, mae e’n glir bod y math yma o ddigwyddiad yn digwydd yn fwy aml, a bod e’n gallu digwydd yma (yng Nghymru) hefyd.”
Effaith y cyfryngau cymdeithasol
Yn ôl Derek Walker, un o’r prif resymau dros ddadwybodaeth ydi’r cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd nad oedd yn “unigryw i’r ddadl newid hinsawdd” chwaith.
“Dydyn ni ddim yn gallu bod yn hunanfodlon am hyn,” meddai. “Mae’n rhaid i ni egluro a gwneud yr achos drwy siarad efo pobl a chymunedau.”
Mae’r pwyslais ar gyfathrebu yn rhywbeth mae Derek Walker “yn awyddus” i wneud fel rhan o’i swydd fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Datgarboneiddio yn TATA
Dywedodd bod pobl yn llawer mwy tebygol o wrando os ydyn nhw’n teimlo bod gweithredu net sero yn cael ei wneud “efo nhw yn hytrach nag iddyn nhw.”
Un esiampl o hyn yw cau safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot er mwyn trawsnewid i ffordd fwy cynaliadwy o gynhyrchu dur.
Yn ôl Derek Walker, mae sefyllfa Tata yn esiampl o “fethiant cynllunio tymor hir”.
“Doedd yna ddim digon o gyfathrebu efo pobl yn y gymuned a’r gweithle i helpu nhw i ddeall be yn union oedd angen digwydd i drawsnewid y diwydiant ar gyfer y dyfodol.
“Ond hefyd methiant i gynnal nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi ac i wneud yn siŵr bod y diwydiant yn wyrddach.
“Ac mi roedd yna ychydig o benderfyniadau a buddsoddiadau munud olaf, ond ychydig rhy fach ac yn rhy hwyr.”