Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn galw am sicrwyd y bydd myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr yn cael dod adref ar gyfer y Nadolig ar ddiwedd y tymor.

Bydd y cyfnod clo cenedlaethol yn Lloegr yn dod i ben ar Ragfyr 2, ac mae teithio i Loegr ac yn ôl wedi’i atal fel rhan o gyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae Mark Isherwood yn galw am sicrwydd na fydd hyn yn atal myfyrwyr o Gymru rhag dod adref ar ddiwedd y tymor.

“Yn dilyn eich cyhoeddiad y bydd y ffin ynghau hyd nes bod y cyfnod clo newydd yn Lloegr yn dod i ben ar Ragfyr 2, pa sicrwydd allwch chi ei roi i fyfyrwyr o Gymru sy’n byw mewn llety prifysgol yn Lloegr yn ystod y tymor y byddan nhw’n cael dod adref i Gymru ar gyfer y Nadolig a thymor y gwyliau ar ôl i dymor y brifysgol ddod i ben yn gynnar ym mis Rhagfyr?” gofynnodd yn y Senedd.

Ymateb Mark Drakeford

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, fod cyfarfod COBRA wedi cytuno y dylid cynnal cyfarfod pellach rhwng pedair gwlad Prydain i drafod y ffordd ymlaen.

Dywedodd fod angen cyfarfod “i ymdrin ag union y math o faterion mae Mark Isherwood yn eu codi am fyfyrwyr yn byw y tu draw i’r ffin yn ystod y tymor a bod â chartrefi maen nhw am ddychwelyd iddyn nhw,” meddai.

Dywed Mark Isherwood ei fod yn croesawu dull pedair gwlad o ymateb i’r sefyllfa.

“Mae ein pobol ifanc wedi goddef cymaint o anghyfleustra i’w bywydau trwy gydol y pandemig hwn o ran dysgu’n rhithiol, arholiadau wedi’u canslo, yr helynt canlyniadau a’r profiad prifysgol cyfyng.

“Mae felly yn hanfodol ein bod ni’n ystyried yr effaith mae eleni wedi ei chael ar ein hiechyd meddwl a sicrhau y gallan nhw ddychwelyd adref at eu teuluoedd ar gyfer y Nadolig.”