Fe fu protestiadau yn Washington dros nos, wrth i’r heddlu gadw dau ddyn croenddu yn y ddalfa.

Fe ddigwyddodd ar Black Lives Matter Plaza Northwest yn dilyn gwrthdaro rhwng yr heddlu a’r protestwyr.

Dydy hi ddim yn glir eto pam iddyn nhw gael eu dwyn i’r ddalfa.

Fe wnaeth yr heddlu greu blocâd beiciau rhwng y ddau ddyn a gweddill y dorf wrth i’r protestwyr geisio gwthio’u ffordd tuag atyn nhw.

Roedden nhw’n bloeddio “dim cyfiawnder, dim heddwch” wrth sarhau’r heddlu a galw arnyn nhw i ryddhau’r ddau ddyn.

Fe wnaeth rhai o’r protestwyr gicio beiciau’r heddlu cyn i’r ddau ddyn gael eu tywys oddi yno.