Mae Aelod Seneddol o Gymru ymhlith 22 o ffigyrau Llafur sydd wedi galw am adael Jeremy Corbyn yn ôl i mewn i’r blaid.

Cafodd y cyn-arweinydd ei ddiarddel o’r Blaid dros dro yr wythnos ddiwethaf yn sgil ei ymateb i ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).

Bu’r Comisiwn yn ymchwilio i honiadau o wrth-Semitiaeth oddi fewn i’r Blaid Lafur, ac yn ôl ei adroddiad, bu’r blaid yn “gyfrifol am aflonyddu a rhagfarnu anghyfreithlon”.

Ymatebodd y cyn-arweinydd, Jeremy Corbyn, trwy ddweud bod maint y broblem wedi’i “orliwio yn ddramatig”.

Bellach mae’r ‘Socialist Campaign Group of Labour MPs’ wedi galw am adael iddo ddychwelyd i’r Blaid, ac ymhlith llofnodwyr eu datganiad mae Beth Winter, AS Pontypridd.

“Rydym yn gwrthwynebu gwaharddiad cyn-Arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ac rydym yn galw am wrthdroi ei ddiarddeliad ar frys,” meddai’r datganiad.

“Dylai cyhoeddi adroddiad yr EHRC fod wedi bod yn foment pwysig i’r Blaid Lafur i fyfyrio a symud ymlaen gyda’n gilydd yn y frwydr yn erbyn gwrth-Semitiaeth.

“Ond yn lle hynny, bellach mae gennym anhrefn a rhwygau yn y blaid … ac mae hynny’n cael effaith ar forâl llawer o aelodau. Mae’r blaid angen y pobol hynny i fod yn actif yn erbyn y Torïaid.”

Distawrwydd yng Nghymru

Beth Winter yw’r Aelod Seneddol cyntaf o Gymru i gefnogi’r alwad, ac hyd yma mae Aelodau Llafur yn y Senedd wedi bod yn dawel ynghylch y mater.

Mae AoS Pontypridd, Mick Antoniw, wedi dweud ei fod am aros yn niwtral.

Mae’r ‘Welsh Labour Grassroots’, wedi galw am adfer y chwip i Jeremy Corbyn. Mae’r grŵp ymgyrchu yma yn chwaer-fudiad i Momentum, sef y grŵp a oedd yn glos iawn â’r cyn-arweinydd.

Ymhlith llofnodwyr eraill y datganiad mae sawl AS a fu’n aelodau o gabinet cysgodol Jeremy Corbyn, gan gynnwys Diane Abbott a Rebecca Long-Bailey.