Mae mudiadau crefyddol yng Nghymru wedi ymwrthod â’r galwadau i gategareiddio addoldai yn hanfodol, a’u heithrio o gyfnodau clo yn y dyfodol.

Daw’r drafodaeth wedi i filoedd o bobl lofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid statws eglwysi i fod yn safleoedd hanfodol ac wrth i arweinwyr crefyddol yng Nghymru a Lloegr anfon llythyr cyfreithiol agored sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â chau eu drysau eto.

Mewn llythyr cyhoeddus, mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, wedi pwysleisio “nad ymosodiad ar ffydd” yw’r camau hyn.

“Mae’r eglwys ar ei gorau pan mae hi’n gofalu am eraill”

Mae Cynan Llwyd, Pennaeth Gweithredol Cymorth Cristnogol Cymru, yn cydnabod rhwystredigaeth y sefyllfa, ond mae’n ategu mai diogelwch ac iechyd cyhoeddus yw’r flaenoriaeth bwysicaf:

“Mae methu cyfarfod wyneb yn wyneb fel eglwysi wedi bod yn rhwystredig iawn ac mae nifer fawr o Gristnogion Cymru yn gweld eisiau cyfarfod â’i gilydd,” meddai.

“Ond rwy’n credu hefyd eu bod nhw’n deall bod y sefyllfa sydd ohoni yn hynod o anodd a bod awydd ganddyn nhw i gadw’n ddiogel a chadw eu cymdogion yn ddiogel.”

“Mae’r eglwys ar ei gorau pan mae hi’n gofalu am eraill ac mae’r cyfnod clo – er mor rhwystredig – wedi gweld yr eglwys yn camu i’r adwy a bod yn gymdogion da.”

“Rhoi cynsail i eraill hefyd gyfiawnhau cael eu heithrio”

Wrth ymateb i’r galwadau, dywedodd Cadeirydd pwyllgor Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth, Siôn Meredith:

“Mae’n bwysig bod Eglwysi yn chwarae eu rhan yn y frwydr yn erbyn y feirws, i gadw’n gymuned yn ddiogel,” meddai.

“Dwi’n credu os yw eglwysi yn mynnu’r hawl i gael eu heithrio o reolau, mae’n rhoi cynsail i grwpiau eraill hefyd gyfiawnhau cael eu heithrio ac yn y diwedd y mwyaf o eithriadau sy’n cael eu gwneud, y lleiaf effeithiol fydd unrhyw gyfnod clo.”

Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth

“Nid gweithgarwch hamdden yw addoli Duw”

“Mae Llywodraeth Cymru mewn lle anodd,” meddai’r Parchedig Gethin Rhys ar ran Cytûn, mudiad eglwysi yng Nghymru.

“Maent yn ceisio dod o hyd i reoliadau sydd yn rhychwantu pawb, pan mae ein harferion mewn amseroedd arferol, mor wahanol.”

Er hynny, dywedodd bod cynnwys mannau crefyddol ar restr o sefydliadau hamdden megis tafarndai, bwytai a phyllau nofion “wedi achosi tipyn o ddicter.”

“Mae angen cydnabyddiaeth i bobl grefyddol ac i bobl o ffydd, nad gweithgarwch hamdden yw addoli Duw – mae’n rhywbeth pwysicach nag hynny.”

Y Llywodraeth yn “llywio llwybr anodd rhwng rhyddid a diogelwch”

Mewn llythyr anfonwyd heddiw (Tachwedd 5) i aelodau o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, ysgrifennodd Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt “nad ymosodiad ar ffydd nac ar gymunedau ffydd yw’r hyn yr ydym yn ei wneud, ond ymgais onest i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed.”

“Nid wyf yn diystyru’r effaith y mae ein rheoliadau a’n rheolau wedi’i chael ar bobl ffydd nad yw’r weithred o addoli’n ddewisol iddynt ond y mae’n ganolog i’w hunaniaeth a’u dyletswydd fel pobl ffydd,” meddai

“Fodd bynnag, mae’r gydnabyddiaeth sydd gennych o ddifrifoldeb y pandemig a’r angen sylfaenol i amddiffyn eich cymunedau a’r cyhoedd yn ei gwneud yn haws llywio’r llwybr anodd rhwng rhyddid a diogelwch.”

Bydd mannau addoli yn ailagor ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru o Dachwedd 9 ymlaen.