Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi ceryddu’r Canghellor am ei “rethreg ymffrostgar” yn ystod ei anerchiad brynhawn heddiw.

Wrth siarad â Thŷ’r Cyffredin, mi gyhoedd Rishi Sunak bod y cynllun ffyrlo yn mynd i gael ei ymestyn hyd at ddiwedd mis Mawrth.

Mae’r hyn yn cyd-daro â dechrau clo cenedlaethol Lloegr, ac mae’r cyfan wedi gadael blas chwerw yng nghegau gweinidogion Cymru (roedd Llywodraeth Cymru wedi galw am hyn fis diwethaf).

Mae Ben Lake, AS Plaid Cymru, wedi croesawu’r ymestyniad ond yn anhapus â’r amseriad a’r ffordd yr aeth y Canghellor ati i’w gyhoeddi.

“Cyn heddiw, roedd y Canghellor wedi gwrthod galwadau i ymestyn y ffyrlo fel hyn, ac felly roedd y rhethreg ymffrostgar a ddaeth â chyhoeddiad heddiw yn ddi-chwaeth,” meddai.

“Byddai wedi bod yn fwy priodol pe bai e’ wedi cydnabod yr ansicrwydd yr achoswyd i gartrefi a busnesau gan ei dro pedol, a chyn hynny ei gyndynrwydd [i ymestyn ffyrlo].

“Mae angen rhagor o eglurder ynghylch gweithio hyblyg, a dw i’n ymbil ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i ystyried mesurau ategol i helpu busnes.”

“Tawelu meddyliau”

Yn ystod ei gyhoeddiad, wnaeth Rishi Sunak geisio mynd i’r afael â’r cyhuddiad bod Llywodraeth San Steffan yn dangos ffafriaeth i Loegr.

“Dw i am dawelu meddyliau pobol yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon,” meddai.

“Cafodd y cynllun ei ddylunio a’i ddelifro gan Lywodraeth y Deyrnas unedig ar ran holl bobol y Deyrnas Unedig, lle bynnag maen nhw’n byw.

“Mae hynny wedi bod yn wir ers mis Mawrth, ac mi fydd yn parhau’n wir hyd at fis Mawrth nesa’.”

“Mae’r Trysorlys wastad wedi bod – ac mi fydd yn parhau i fod – yn Drysorlys i holl bobol y Deyrnas Unedig,” meddai wedyn.

Ceidwadwyr yn cefnogi

Dywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd, Paul Davies, ei bod yn bwysig bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio nawr bod y cynllun ar y bwrdd wedi’i ymestyn.

Dywedodd wrth BBC Cymru: “Mae pobl am i’w Llywodraethau – Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru – gydweithio i fynd i’r afael â’r pandemig hwn.

“A dyna rwy’n annog y ddwy Lywodraeth i’w wneud. Mae angen i ni weld dull llawer mwy cydgysylltiedig a chredaf mai’r arwyddion gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yw mai dyna’r cyfeiriad y mae’r ddwy am ei ddilyn.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart y byddai’r estyniad yn rhoi “sicrwydd” i bobl a busnesau yn y wlad.

“Rydym wedi cefnogi mwy na hanner miliwn o fywoliaeth yng Nghymru hyd yma yn ystod y pandemig, ac mae’r pecyn a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar bobl a busnesau yn y misoedd i ddod,” meddai.

“Rydym yn mynd i’r afael â’r pandemig fel un Deyrnas Unedig, a bydd gweithwyr, teuluoedd a busnesau ledled Cymru yn parhau i gael mynediad llawn i’n cymorth ariannol digynsail ledled y DU.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi croeso gofalus i’r estyniad a galw am “ôl-ddyddio’r gefnogaeth”.