Mae rhybudd diogelwch brys wedi’i gyhoeddi ar ôl i drên cludo nwyddau fynd oddi ar y rheiliau yn Llangennech, ger Llanelli ym mis Awst gan achosi tân mawr.

Dylai’r cwmnïau sy’n gyfrifol am gynnal wagenni sy’n cario nwyddau peryglus adolygu eu prosesau i reoli’r risg o fethiant brêc, yn ôl y Gangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffyrdd (RAIB).

Dylai hyn gynnwys asesu cymhwysedd gweithwyr a diogelwch dyfeisiau sicrhau.

Cyhoeddwyd y cyngor fel rhan o ymchwiliad yr RAIB (Rail Accident Investigation Branch) i’r ddamwain yn Llangennech ar Awst 26, lle cafodd 330,000 litr o danwydd ei ollwng.

Gorfododd y tân 300 o bobl o’u cartrefi.

Yn ôl adroddiad rhagarweiniol RAIB a gyhoeddwyd ym mis Medi, roedd rhai o olwynion y trên wedi’u difrodi oherwydd problem gyda’r brêc ar ôl i ddarn ddod yn rhydd.

Dywedodd yr ymchwilwyr nad oedd “unrhyw gofnod o waith erioed yn cael ei wneud ar ddyfeisiau sicrhau’r trên.”

Roedd y trên, sy’n eiddo i DB Cargo UK, yn teithio o burfa olew Robeston yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, i derfynfa dosbarthu tanwydd yn Theale, Berkshire.

Roedd yn teithio tua 30mya pan aeth y trên oddi ar y rheiliau.