Mae Nicola Sturgeon wedi datgelu y gallai ymchwiliad cyhoeddus i farwolaethau mewn cartrefi gofal yn ystod pandemig y coronafeirws gwmpasu pob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban fod ei Hysgrifennydd Iechyd, Jeane Freeman, wedi ysgrifennu at Weinidogion Iechyd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon er mwyn trafod y mater.

Daw hyn ar ôl i Aelodau’r Senedd yn Holyrood bleidleisio o blaid cynnal ymchwiliad cyhoeddus i farwolaethau mewn cartrefi gofal.

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi dweud y bydd marwolaethau o’r fath yn cael eu harchwilio mewn ymchwiliad cyhoeddus llawnach i’r ffordd y mae’n ymdrin â’r pandemig a’i effaith.

Ond dim ond pan fydd yr ail don y coronafeirws ar ben y dylid gwneud hyn, meddai Holyrood.

Cydweithio â’r gwrthbleidiau

Yn ogystal â chysylltu â gweinidogion iechyd eraill y DU, dywedodd Nicola Sturgeon bod yr Ysgrifennydd Iechyd hefyd yn ceisio cynnal trafodaethau gyda gweinidogion iechyd yr wrthblaid yn Holyrood.

Wrth siarad mewn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Nicola Sturgeon: “Bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn gwahodd gweinidogion y gwrthbleidiau i drafod y camau nesaf wrth sefydlu unrhyw ymchwiliad.

“Fel mae pob aelod o’r siambr yn gwybod, mae sefydlu ymchwiliad cyhoeddus yn cymryd rhai camau ac ni ellir ei wneud dros nos.

“Ond mae ein hymrwymiad i wneud hynny, ac i wneud hynny cyn gynted â phosibl, gan sicrhau bod y rhai mewn swyddi ar y rheng flaen yn gallu canolbwyntio ar ddelio ag ail don y coronaferiws, yn absoliwt.”