Mae tîm golygyddol Y Stamp wedi cyhoeddi mai rhifyn nesaf y cylchgrawn fydd yr olaf – “am y tro, beth bynnag”.

Cafodd y cylchgrawn ei gyhoeddi yn 2016, ac mae 11 rhifyn wedi cael eu rhyddhau dros y pedair blynedd diwethaf.

Ond mae’r tîm golygyddol wedi dweud eu bod yn bwriadu parhau i gynnal digwyddiadau a chyhoeddi cyfrolau a phamffledi.

“Mae ein diolch yn enfawr i bawb sydd wedi darllen a chefnogi; rhai ers y dechrau ac eraill wedi dod ar ein traws yn fwy diweddar – ac mi allwn ni addo y bydd Rhifyn 11 swmpus, deniadol ac amrywiol, yn ôl yr arfer, ar ei ffordd atoch yn fuan,” meddai datganiad.

“Tydi hyn ddim yn ddiwedd ar Y Stamp, chwaith; mae hi’n fwriad gennym barhau i gynnal digwyddiadau sy’n rhoi llwyfan i gyfoeth ac amrywiaeth y gwaith creadigol sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd.”

“Rhwystredigaeth”

Cafodd Y Stamp ei sefydlu oherwydd rhwystredigaeth am ddiffyg cyfleoedd, yn ôl y tîm golygyddol.

“Pan sefydlwyd Y Stamp gan y criw ar ddiwedd 2016, roeddem yn rhwystredig am y diffyg cyfleoedd ar gael i artistiaid ac awduron ifanc rannu eu gwaith – roedd cyhoeddiadau fel Y Neuadd a Tu Chwith, lle’r oedd y golygyddion gwreiddiol wedi cael y cyfle hwnnw, newydd ddod i ben; a doedd yna ddim byd fel petai o’n llenwi’r bwlch.

“Roeddem hefyd yn rhwystredig am ddiwydiant cyhoeddi oedd yn orddibynnol ar nawdd cyhoeddus, diffyg cynrychiolaeth ar lwyfannau digwyddiadau ac mewn cyhoeddiadau Cymraeg, a phobl oedd yn cael eu cau allan ar sail rhagfarn, ‘safon’, a chwaeth – ymysg pethau eraill.”

Chwilio am griw i griw i greu cyhoeddiad newydd

Mae’r tîm golygyddol bellach yn chwilio am griw newydd sydd â “breuddwyd o sefydlu cyhoeddiad creadigol rheolaidd”.

Ac maen nhw’n barod i gynnig y £300 sy’n weddill yng nghoffrau’r cylchgrawn i dîm i greu cyhoeddiad newydd.

“Dylai fod yn gyhoeddiad sy’n fentrus, yn annibynnol o ran ysbryd ac yn gydweithredol ei natur,” meddai’r datganiad.

“Rydym yn arbennig o awyddus i ymgeiswyr ystyried maniffesto cylchgrawn Y Stamp wrth feddwl am egwyddorion a gwerthoedd y cyhoeddiad newydd.”

“Amrywiaeth yn hollbwysig i’r Stamp”

Hoffai’r tîm golygyddol weld ceisiadau gan gefndiroedd lleiafrifol.

“Gydag amrywiaeth yn hollbwysig i’r Stamp, hoffem hefyd annog yn benodol geisiadau gan bobl o gefndiroedd lleiafrifol neu sydd yn cael eu tangynrychioli, boed hynny o ran cefndir diwylliannol ac ethnig, o ran rhywedd, cefndir, dosbarth neu abledd.”