Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £10.7m ar gael i gefnogi’r celfyddydau a diwylliant yn ystod y pandemig coronafeirws, gan ddod â chyfanswm y cyllid sydd ar gael drwy’r Gronfa Adferiad Diwylliannol i £63.7m.
Mae hyn yn ychwanegol i becyn portffolio gwerth £18m a gafodd ei ddarparu ym mis Ebrill gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymru Greadigol a Chwaraeon Cymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei dargedu er mwyn cefnogi sefydliadau yn y sectorau diwylliannol, creadigol, digwyddiadau a threftadaeth, ac i sicrhau bod yr arian yn cyrraedd mwy o rannau o’r sector cyn gynted â phosibl.
“Yng Nghymru, rydym am wneud popeth bosib i sicrhau bod ein celfyddydau, diwylliant a chreadigrwydd yn goroesi’r pandemig hwn,” meddai’r Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
“I gydnabod pa mor galed y cafodd y sector ei daro, rydym yn buddsoddi £10.7m yn ychwanegol i gyrraedd cynifer o rannau’r sector â phosibl.
“Mae hyn yn mynd â ni ymhell y tu hwnt i’r £59m o gyllid canlyniadol a gafwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf, gan dynnu sylw at y gwerth a roddwn i gyfraniad y sector at fywyd Cymru a’r economi ehangach – ac mae’n rhaid i hynny barhau yn y dyfodol.”
‘Cydnabod a deall yr heriau ariannol’
“Rydyn ni’n cydnabod ac yn deall yr heriau ariannol y mae’r sector yn parhau i’w hwynebu,” meddai Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Cyllid.
“Bydd y cyllid ychwanegol hwn yr ydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw yn hybu lefel y cymorth rydan ni wedi ei ddarparu eisoes i helpu’r diwydiant oroesi yn y cyfnod digynsail hwn a dod at ei hun wedi’r pandemig.”