Mae Cyngor Môn wedi cyhoeddi y bydd y broses o foderneiddio ysgolion ar yr ynys yn ailddechrau yn dilyn oedi o saith mis yn sgil pandemig y coronafeirws.

Ers i Raglen Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn ddechrau yn ôl yn 2012, mae’r Cyngor Sir wedi buddsoddi tua £22m mewn addysg ar yr ynys, gydag ysgolion cynradd yr unfed ganrif ar hugain wedi eu hagor yng Nghaergybi, Llanfaethlu a Niwbwrch.

Cafodd ymgynghoriadau statudol ar ddyfodol darpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Llangefni eu cynnal ym mis Chwefror a Mawrth.

Mae disgwyl i adroddiad ymgynghori fynd gerbron Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y Cyngor ac yna’r Pwyllgor Gwaith yn ystod yr wythnosau nesaf.

Bydd y Pwyllgor Gwaith ystyried ceisiadau a fydd, pe baen nhw’n cael eu cymeradwyo, yn gweld £16m o fuddsoddiad er mwyn gallu bodloni cynaladwyedd hirdymor addysg yn ardal Llangefni wrth sicrhau bod digon o le mewn ysgolion i allu bodloni’r gofynion presennol ac yn y dyfodol.

Argymhellion

Yr argymhellion fydd yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yw:

  • Adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel ag y mae
  • Cynyddu capasiti Ysgol y Graig gydag estyniad er mwyn cynnwys disgyblion Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.

“Mae ymateb i’r argyfwng a chadw pobol Ynys Môn yn ddiogel yn parhau i fod wrth wraidd ein gwaith o ddydd i ddydd ond mae nifer o brosiectau pwysig – yn cynnwys moderneiddio ysgolion – wedi eu hatal ers rhai misoedd bellach,” meddai Annwen Morgan, prif weithredwr Cyngor Ynys Môn.

“Er mai gohirio’r broses moderneiddio ysgolion yn Llangefni oedd y peth iawn i’w wneud ar y dechrau – does dim modd gohirio’r broses am byth – yn enwedig gan nad ydym yn gwybod pryd fydd yr argyfwng hwn yn debygol o ddod i ben.”

‘Buddsoddi yn nyfodol plant’

“Rydym eisiau buddsoddi yn nyfodol plant a phobl ifanc Ynys Môn,” meddai’r Cynghorydd Meirion Jones.

“Fel rhan o’r rhaglen hon, rhaid i ni sicrhau bod plant yn derbyn eu haddysg mewn adeiladau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, adeiladau sydd yn y lle iawn, sy’n bodloni anghenion disgyblion a staff, sy’n helpu i hyrwyddo safonau uchel ac sy’n amddiffyn yr iaith Gymraeg.

“Nod hirdymor ein rhaglen moderneiddio yw creu’r amgylchedd addysgol gorau posibl ar gyfer dyfodol ein plant.”