Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn rhybuddio y dylid brechu pobol Cymru yn erbyn y coronafeirws ar sail eu hanghenion ac nid ar sail maint y boblogaeth.

Daeth ei sylwadau wrth iddo ofyn i’r prif weinidog Mark Drakeford sut y byddai brechlynnau yn cael eu trefnu ar ôl iddyn nhw fod ar gael.

Dywedodd Mark Drakeford yn ystod cyfarfod llawn o’r Senedd bod swm o frechlynnau wedi’i gadarnhau ar sail pobologaeth Cymru.

Ond mae’r Athro Jonathan Van Tam, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Lloegr, eisoes wedi dweud mai oedran fyddai’r prif ffactor wrth ddewis pwy fyddai’n cael eu brechu gyntaf.

‘Bregus’

“Mae pa mor fregus ydyn ni fel gwlad eisoes wedi’i amlygu gan y prif weinidog yng nghyd-destun Covid-19,” meddai Adam Price.

“Mae pobologaeth Cymru’n hŷn, yn fwy sâl ac yn dlotach ar gyfartaledd o’i chymharu â gweddill y Deyrnas Unedig.

“Dylai’r prif weinidog ymrwymo i gael gafael ar siâr o’r brechlyn ar sail angen yn hytrach na phoblogaeth, ac mae angen iddo gynnig eglurder ynghylch pwy fydd yn cael eu blaenoriaethu.

“Mae gan Gymru rai o’r ardaloedd cyfraddau heintio uchaf yn y Deyrnas Unedig ac os yw’r brechlyn yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer cymunedau sydd â’r perygl mwyaf o gael eu heintiau, fel ydw i wedi galw amdano heddiw – bydd angen i siâr Cymru fod yn fwy.

“Dydyn ni ddim am gael ein hunain yn y sefyllfa lle gall gweddill y Deyrnas Unedig ddychwelyd i’r drefn arferol, ond lle nad yw Cymru wedi cael digon o frechlynnau i warchod ein pobol fwyaf bregus.

“Mewn byd lle mae brechlyn coronafeirws sy’n gweithio, bydd cyfnodau clo pellach yn anodd i’w cyfiawnhau.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru roi sicrwydd nawr fod ganddyn nhw afael ar y logisteg.”