Mae Cymorth Cristnogol yn dweud bod yn rhaid sicrhau bod mynediad i unrhyw frechlyn coronafeirws llwyddiannus yn cael ei rannu gyda phobol dlotaf y byd.
Wrth ymateb i’r newyddion fod brechlyn newydd ar gyfer y coronafeirws yn 90% effeithiol, mae’r elusen yn galw am i unrhyw frechlyn llwyddiannus fod ar gael i bobol sy’n byw mewn tlodi.
Mae’r elusen yn galw ar i lywodraethau gefnogi’r alwad fyd-eang am frechlyn y bobol a wnaed yng Nghynghrair Iechyd y Byd ym mis Mai.
Yn ei adroddiad diweddar, Adeiladu’n Ôl gyda Chyfiawnder, mae Cymorth Cristnogol hefyd yn galw ar i lywodraethau sicrhau bod mynediad i brofion a thriniaethau’r coronafeirws am ddim i bawb.
“Gallai datganiad ddoe fod yn drobwynt yn y frwydr yn erbyn Covid-19 a gallai leihau’r dioddefaint mawr sydd wedi bod ar bobl o’i herwydd,” meddai Cynan Llwyd, Pennaeth Gweithredol Cymorth Cristnogol yng Nghymru.
“Ond er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i lywodraethau gefnogi’r alwad am frechlyn y bobol sydd ar gael i wledydd tlawd yn ogystal â’r cyfoethocaf.
“Rydan ni’n galw ar i’r Deyrnas Unedig a llywodraethau eraill G20 gydlynu ymateb byd-eang i’r pandemig a chytuno cynllun adfer yn y Cenhedloedd Unedig.
“Rhaid i’r Deyrnas Unedig a gwledydd eraill yr G20 gefnogi menter y WHO [Sefydliad Iechyd y Byd], a wnaethpwyd yng Nghynulliad Iechyd y Byd ym mis Mai, i gyfuno ymchwil a chydgyfrannu talent, gan sicrhau fod pob cyffur sy’n berthnasol i brofi, trin, atal ac ymateb i Covid-19 ar gael yn syth ac yn fforddiadwy i bob gwlad.”