Mae prifathrawon yng Nghymru wedi croesawu cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams i ganslo arholiadau TGAU a Safon Uwch y flwyddyn nesaf.

Er hynny, mae’r pryder yn parhau i nifer o bobol ifanc sy’n pryderu ynglŷn â chyfnodau hir o asesu.

“Mi fydden i wedi dymuno gweld y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn gynt,” meddai Dewi Lake, pennaeth Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.

“Mae’r ymrwymiad i ddarparu’r holl fanylion cyn diwedd y flwyddyn yn cael ei groesawu ond eto mae’n rhaid derbyn bod hynny’n hir ac yn hwyr o ran gwaith cynllunio’r athrawon. Mae hi’n hollbwysig bod y manylion yn cael eu cadarnhau cyn gynted ac sydd phosib.”

Bydd asesiadau dan ofal athrawon yn cynnwys asesiadau sy’n cael eu gosod a’u marcio’n allanol, ond bydd gan athrawon gyfrifoldeb am eu goruchwylio yn y dosbarth.

Dywedodd Dewi Lake fod angen sicrhau cydbwysedd rhwng yr hyn sy’n digwydd o fewn yr ysgol ac yn allanol.

“Tra bod hyn yn sicr yn lleddfu llawer iawn o ofnau disgyblion, mae’n bwysig peidio cael system sydd yn mynd i greu mwy o bryderon o fath gwahanol yn ystod y flwyddyn,” meddai.

“Y penderfyniad mwyaf teg a synhwyrol”

Yn ôl Elen Williams, pennaeth Ysgol Brynrefail yn Llanrug, canslo’r arholiadau yw’r penderfyniad “mwyaf teg a synhwyrol”.

“Byddai yn amhosib i’r arholiadau gael eu cynnal mewn modd a fyddai yn deg ac yn gyfartal i ddisgyblion ar draws ysgolion Cymru eto eleni,” meddai.

“Er bod llawer o gwestiynau yn codi yn naturiol o ran sut y bydd y drefn o asesiadau dosbarth yn digwydd yn y gwanwyn a beth fydd eu cynnwys ar draws y gwahanol bynciau, credaf mai hwn fel egwyddor y ffordd gywir ymlaen.”

Dywedodd ei bod yn awyddus i gael “arweiniad pellach” ynglŷn â sut fydd y drefn yn cydredeg ochr yn ochr ag asesiadau athrawon pynciau unigol.

Ansicrwydd a siom ymhlith y disgyblion Ysgol y Moelwyn

Roedd y farn gyffredinol ymhlith disgyblion Blwyddyn 11, Ysgol Y Moelwyn yn un o ansicrwydd a siom.

Mae hynny’n seiliedig ar y diffyg eglurder o ran y dulliau asesu, sy’n debygol o ddigwydd dros gyfnod hir o amser.

Maen nhw’n dweud y bydd hynny yn eu rhoi o dan fwy o bwysau eto fyth.

Yn ôl un disgybl, Swyn Huws, mae’r sefyllfa yn ei gwneud hi’n anodd i ddisgyblion drefnu a blaenoriaethu eu gwaith.

Dywedodd hefyd ei bod hi’n anodd iddyn nhw gael eu hasesu mewn ystafell ddosbarth arferol, gan fod yr awyrgylch yn rhy anffurfiol.

Mae rhai o’r disgyblion yn teimlo annhegwch a’u bod nhw’n cael eu cosbi.

… ond rhyddhad a phryder ymhlith disbyglion Ysgol Dyffryn Ogwen

Mae criw o ddisgyblion Blwyddyn 11 Ysgol Dyffryn Ogwen yn croesawu’r penderfyniad ar ôl colli cyfnodau hir o’r ysgol ar ddechrau’r flwyddyn ac oherwydd bod arholiadau’n creu gormod o straen ar y gorau.

Er hynny, bydd y disgyblion yn cychwyn yn y chweched dosbarth heb orfod sefyll unrhyw arholiad allanol llawn, sydd yn destun pryder iddyn nhw.

“Mae’n bryderus na fyddwn yn gwybod yn iawn hyd nes y Nadolig be’ fydd y trefniadau manwl,” ychwanegodd un disgybl.

“Mae’n anodd i ni a’r athrawon wybod ar beth i ganolbwyntio yn ystod yr wythnosau nesaf.”