Mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi na fydd arholiadau’r haf yn cael eu cynnal yn 2021.

Yn hytrach nag asesu disgyblion ar sail arholiadau TGAU, lefel AS, a lefel A; bydd marciau yn cael eu dyfarnu ar sail asesiadau dosbarth.

Wrth gyhoeddi’i phenderfyniad, dywedodd Kirsty Williams ei bod yn amhosib sicrhau amodau teg ar gyfer arholiadau yn ystod yr argyfwng coronafeirws.