Rydw i’n caru pêl-droed rhyngwladol. Ei garu!

Os bysen i’n gorfod dewis un tîm yn unig i gefnogi am weddill fy mywyd, byswn i’n dewis Cymru dros unrhyw glwb. Mae’n rhesymol, felly, i dybio fy mod i’n gyffrous iawn ac yn edrych ymlaen at y gemau nesaf yn erbyn yr Unol Daleithiau, Iwerddon a’r Ffindir. Ond y gwir yw, dydw i ddim yn meddwl dyle’r gemau yma gael eu chwarae o gwbl.