Rhyw orfoledd tawel sydd yn y blogfyd wrth ystyried colled Donald Trump… a gwrthwynebwyr y Ceidwadwyr yn gweld gwers iddyn nhwythau hefyd…

“Y sŵn o wylo tawel diobaith yn Rhif Deg Downing Street yw sŵn llywodraeth sydd wedi cefnogi’r ceffyl anghywir yn etholiadau’r Unol Daleithiau ac wedi colli ei chrys a llawer mwy yn y broses. Un o seiliau Brexit oedd yr addewid y byddai Trump yn rhoi cytundeb masnach da i ni, waeth pa mor annhebygol oedd hynny mewn gwirionedd.