Comedi pry-ar-y-wal yw Rybish. Cynnig newydd i’r genedl gan ein hoff orsaf deledu Cymraeg.

Mae’n ymuno gyda charfan elitaidd o gomedïau o’r fath. Megis This Country, The Thick Of It a The Office.

Gwych o beth yw fod S4C yn rhoi sylw i gomedi. Ry’n ni angen rhywbeth i’n diddanu yn ystod y dyddiau du, brawychus, oer a gwlyb sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd.