Mae’r cyfnod nesa’n un bach eitha’ peryglus… oherwydd y newyddion da.

Os oedd yna adeg i gadw gwybodaeth rhag y cyhoedd, efallai mai hon oedd hi. Mi allai’r lled-addewid o frechlyn rhag feirws corona achosi problemau mawr.

Os oedd yna deimlad fod angen cynnig gobaith i bobl, yn enwedig gan fod Lloegr Fawr ei Hun mewn cyfnod clo, mae yna beryg hefyd o godi gormod ar y gobaith hwnnw.