Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi cyhoeddi na fydd arholiadau TGAU a Safon Uwch y flwyddyn nesaf.

Bydd gwaith cwrs ac asesiadau yn disodli’r arholiadau yn sgil sefyllfa’r coronafeirws.

Dywed Kirsty Williams ei bod yn “amhosib sicrhau tegwch wrth gynnal arholiadau” a bod y penderfyniad “yn tynnu’r pwysau oddi ar ddysgwyr”.

“Mae lles dysgwyr a sicrhau tegwch ar draws y system yn ganolog i’n proses o wneud penderfyniadau,” meddai.

“Yn unol ag argymhellion Cymwysterau Cymru a’r adolygiad annibynnol, fydd dim arholiadau ar gyfer TGAU na Safon Uwch y flwyddyn nesaf.

“Fydd dim gofyn i fyfyrwyr Safon Uwch sefyll arholiadau chwaith.”

Dywedodd fod prifysgolion wedi cael gwybod am y penderfyniad.

Bydd asesiadau dan ofal athrawon yn cynnwys asesiadau sy’n cael eu gosod a’u marcio’n allanol, ond bydd gan athrawon gyfrifoldeb am eu goruchwylio yn y dosbarth.

A bydd athrawon hefyd yn cael penderfynu pryd i gynnal asesiadau.

Mae sawl undeb wedi croesawu’r penderfyniad, gan gynnwys NEU Cymru ac ASCL.