Cymdeithas yr Iaith yw’r diweddaraf i feirniadu cynlluniau Prifysgol Bangor i wneud toriadau i nifer o adrannau’r Brifysgol, gan gynnwys yr Adran Gymraeg.

Mae’r Brifysgol yn bwriadu gwneud newidiadau i’r Coleg Gwyddorau Dynol, Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg, a Choleg y Celfyddydau, Dadwainiant a Busnes er mwyn gwneud arbedion o £13m.

Mae 200 o swyddi hefyd dan fygythiad gydag 80 o staff academaidd a 120 o staff cynorthwyol yn wynebu’r fwyell.

Rhybuddia Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, y gallai’r toriadau fod yn ergyd i enw da’r Adran Gymraeg.

“Byddai toriadau i’r Adran Gymraeg yn cael effaith ddinistriol ar ddarpariaeth y Brifysgol o gyrsiau Cymraeg is-raddedig a graddedig,” meddai.

“Adnabyddir y Brifysgol fel un o brif ganolfannau Cymraeg fel pwnc addysg uwch y byd, ac fe fyddai toriadau o’r math hyn yn ergyd enfawr i’r enw da haeddiannol hwn.

“Byddai cyflwyno’r toriadau hyn yn weithred gwbl fyrbwyll a niweidiol i’r Brifysgol, yr iaith a’r gymuned ehangach.

“Cydsafwn â myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, staff ac undeb UCU yn eu gwrthwynebiad i gynlluniau Prifysgol Bangor.”

Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes sydd wedi’i daro waethaf gan y toriadau a’r ailstrwythuro – mae 30 o swyddi llawn amser yn y fantol yno gan gynnwys un ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth Fodern a Chyfoes ac un ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol.

‘Dim ond mis o rybudd yn gwbl warthus’

Mae Prifysgol Bangor wedi dechrau ar gyfnod ymgynghori ac mae gan staff a myfyrwyr tan Dachwedd 15 i ymateb.

Ond dydy hyn ddim yn ddigon da yn ôl un myfyriwr sy’n rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith.

“Nid yw’r Brifysgol wedi rhoi lawer o rybudd i ni fyfyrwyr i ymateb i’w hymgynghoriad – dim ond mis o rybudd, sy’n gwbl warthus, yn enwedig o ystyried eu difrifoldeb,” meddai.

“Mae’n bosib fod y Brifysgol yn ceisio cymryd mantais o ddryswch y sefyllfa bresennol i weithredu cynlluniau dadleuol yn ddiwrthwynebiad, heb ymgynghori’n ddigonol.”

Mae 750 wedi llofnodi deiseb gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gwrthwynebu’r newidiadau.

Darllen mwy: