Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau achosion positif o’r coronafeirws yng nghartref gofal annibynnol MHA Hafan y Waun yn Aberystwyth.
Mae’r holl breswylwyr wedi cael profion ar ôl i nifer o staff brofi’n bositif, ac roedd nifer “luosog” o’r profion yn bositif.
Mae Tîm Rheoli Achosion Lluosog aml-asiantaethol wedi’i sefydlu i ymateb i’r digwyddiad ac yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, maen nhw’n cydweithio â’r Cartref, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Iechyd Cyhoeddus Cymru i atal ymlediad y feirws.
Mae’r cartref wedi cysylltu â theuluoedd y preswylwyr a bydd y staff yn rhoi diweddariadau rheolaidd i bob teulu dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.
Datganiad
“Mae ymweliadau â chartrefi gofal yng Ngheredigion yn parhau i gael eu hatal ac mae preswylwyr yn cael cymorth i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau dros y ffôn a galwadau fideo gynadledda /Skype,” meddai’r Cyngor mewn datganiad.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am y cydweithrediad a ddangoswyd gan staff, preswylwyr cartrefi gofal, eu teuluoedd ac aelodau o’r cyhoedd wrth i ni gymryd pob cam i gadw trigolion Ceredigion yn ddiogel ac yn iach.”