Mae Syr John Major, cyn-brif weinidog Prydain, wedi rhybuddio y gallai gwrthod ail refferendwm i’r Alban arwain at dwf y mudiad annibyniaeth fel y gwnaeth Brexit ac amhoblogrwydd Llywodraeth Geidwadol Prydain.

Ac mae’n rhybuddio bod Brexit a Llywodraeth Geidwadol amhoblogaidd wedi arwain at dwf y mudiad eisoes.

Mae’n argymell rhoi’r hawl i’r wlad gynnal dwy bleidlais, y naill i gasglu barn am annibyniaeth a’r llall i gytuno ar y telerau.

Mae Albanwyr sydd o blaid annibyniaeth yn dweud bod ei sylwadau’n “rhybudd i ddeffro” i Boris Johnson ynghylch ei “safiad annemocrataidd” wrth iddo barhau i wrthod rhoi’r hawl i’r Alban gynnal refferendwm arall.

‘Helpu’r achos’

“Yn ôl y gyfraith, mae angen sêl bendith Llywodraeth San Steffan ar yr Albanwyr cyn bod modd cynnal refferendwm annibyniaeth cyfreithlon newydd,” meddai Syr John Major mewn darthlith yng nghyfres Middle Temple.

“Ond gallai ei wrthod helpu’r achos tros ymwahanu, drwy ychwanegu at y rhestr o gwynion mae’r SNP yn eu hecsbloetio â’r fath sgil.

“Y dewis i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw cytuno y gall y refferendwm gael ei gynnal, neu ei wrthod.

“Ond mae perygl mawr o ran y naill opsiwn a’r llall.

“Ond gallai gwersi Brexit gynnig ffordd ymlaen.

“Gallai Llywodraeth San Steffan gytuno i gynnal refferendwm annibyniaeth ar sail dau refferendwm, y cyntaf i bleidleisio ar egwyddor y trafodaethau a’r ail ynghylch y canlyniad.

“Pwrpas yr ail refferendwm fyddai i etholwyr yr Alban gael gwybod beth fydden nhw’n pleidleisio yn ei gylch, ac i allu ei gymharu â’r hyn sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd.

“Wnaeth hyn ddim digwydd o ran Brexit: pe bai wedi digwydd, efallai na fyddai yna Brexit nawr.

“Gallai nifer o leisiau Albanaidd – ac yn enwedig busnesau – gefnogi rhesymeg hyn: gallai canolbwyntio meddyliau oddi wrth wrthwynebiad tymor byr i Lywodraeth Seisnig dybiedig, ac yn ôl i rinweddau cilyddol a hirdymor yr Undeb.”

Y sefyllfa yn yr Alban

Pleidleisiodd 55% o Albanwyr dros aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig yn y refferendwm cyntaf yn 2014.

Mae Alister Jack, Ysgrifenydd yr Alban, wedi wfftio’r posibilrwydd o gynnal pleidlais arall am genhedlaeth arall, heb nodi sawl blwyddyn.

Ond mae’r mudiad annibyniaeth yn parhau i dyfu, ac mae’r SNP yn rhybuddio y dylid talu sylw i sylwadau Syr John Major.

“Rhaid i sylwadau’r cyn-brif weinidog Torïaidd fod yn rhybudd i ddeffro i’r prif weinidog presennol ynghylch ei safiad annemocrataidd – yn syth allan o lyfr chwarae Donald Trump – i geisio gwadu canlyniadau etholiad democrataidd drwy geisio atal pobol yr Alban rhag cael yr hawl i ddewis eu dyfodol eu hunain mewn refferendwm,” meddai Kirsten Oswald, dirprwy arweinydd yr SNP yn San Steffan.

“Mae un pôl ar ôl y llall wedi dangos bod annibyniaeth bellach yn dod yn ewyllys sefydlog y mwyafrif o bobol yn yr Alban, ac mai mater i bobol yr Alban yw dewis eu dyfodol.

“Nid mater i lywodraethau San Steffan nad ydyn nhw’n dirnad y sefyllfa yw gosod telerau refferendwm na phenderfynu dyfodol pobol yr Alban.”