Mae “morâl staff yn anhygoel o isel” ym Mhrifysgol Bangor yn ôl undebau staff.
Dywedodd yr undeb bod 87% o’u haelodau wedi “mynegi diffyg hyder yn nhîm gweithredol y brifysgol” dros gynlluniau i dorri 200 o swyddi.
“Mae morâl staff yn anhygoel o isel,” meddai’r Athro Doris Merkl-Davies, aelod o bwyllgor undeb UCU Bangor wrth y BBC.
“Mae hyd yn oed staff mewn ysgolion heb unrhyw ddiswyddiadau, fel yr Ysgol Fusnes, yn teimlo mai dim ond modd o gadw eu swyddi dros dro fydd hyn.”
Roedd 84% o aelodau’r undeb o blaid y cynllun gostwng cyflog am ddwy flynedd, ac 81% yn barod i weithredu’n ddiwydiannol er mwyn atal diswyddiadau gorfodol.
Gallai toriadau arbed £5m
Cynnig yr undeb yw bod y rhai ar y cyflogau gorau yn derbyn y toriadau mwya’.
Awgrymwyd y gallai staff sy’n ennill £20,130 neu lai dderbyn toriad o 0.5%, tra byddai staff sy’n ennill £114,000 yn derbyn toriad o hyd at 15%.
Mae’r undeb yn dweud y gallai’r cynnig arbed rhwng £5m a £5.4m.
Streicio
Mewn llythyr at Is-Ganghellor y brifysgol, dywedodd llywydd yr undeb, Dr Dyfrig Jones, fod yr aelodau’n barod i streicio.
“Byddwch, rwy’n siŵr, wedi gweld adroddiadau newyddion bod cangen UCU ym Mhrifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin heddiw wedi pleidleisio i weithredu’n ddiwydiannol,” meddai.
“Mae’n gwbl bosibl y byddwn yn cael ein gorfodi i ddilyn yr un llwybr yma ym Mangor, oni bai bod newid cyfeiriad ar sylfaenol ar unwaith.”