Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio na fyddan nhw’n goddef unrhyw dresbasu anghyfreithlon nag ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn diogelu’r amgylchedd a chymunedau lleol.
Daw hyn yn dilyn achos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mercher (Hydref 21) lle cafodd Michael Pettit a Mike Jones orchymyn i dalu dirwyon a chostau o £4,085.75 yr un am dresbasu anghyfreithlon ac achosi difrod.
Roedd y ddau wedi gwersylla dros nos yng Nghoedwig Goed y Brenin ger Trawsfynydd.
“Rydym yn rheoli coedwigoedd a gwarchodfeydd natur Cymru fel y gall bawb fwynhau’r mannau arbennig hyn mewn modd diogel,” meddai Dylan Williams, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yng Ngogledd Orllewin Cymru.
“Yn anffodus, mae lleiafrif bychan sy’n gwrthod cydymffurfio â’r rheolau.
“Byddwn bob amser yn cynnig cyngor ac arweiniad cyn dilyn trywydd cyfreithiol. Ond pan anwybyddir ein rheolau, fe wnawn gymryd camau cyfreithiol er mwyn diogelu’r amgylchedd naturiol a chymunedau lleol.”