Mae nodiadau o areithiau yn llawysgrifen Adolf Hitler wedi eu gwerthu mewn ocsiwn ym Munich, er gwaethaf pryderon gan grwpiau Iddewig y gallant annog neo-Natsïaid.

Amddiffynnodd tŷ arwerthiant Hermann Historica’r ffaith bod y nodiadau wedi cael eu gwerthu, gan ddweud eu bod o arwyddocâd hanesyddol ac yn haeddu cael eu cadw mewn amgueddfa.

Gwerthodd y dogfennau i gyd i brynwr anhysbys am €34,000 (£30,000) – cryn dipyn uwch na’r prisiau cychwynnol.

Roedd y ddogfen naw tudalen gan Adolf Hitler yn amlinellu ei araith i swyddogion milwrol newydd ym Merlin yn 1939, tua wyth mis cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd.